Stoke 2–0 Abertawe

Collodd Abertawe yn erbyn Stoke yn Stadiwm Britannia brynhawn Sul wrth i’w tymor siomedig oddi cartref barhau. Dim ond dwywaith y mae’r Elyrch wedi ennill i ffwrdd o’r Liberty yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn. Roedd goliau hanner cyntaf Matthew Upson a Peter Crouch yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i dîm y Cymro, Tony Pulis.

Agorodd Upson y sgorio hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wrth benio cic gornel Matthew Ethrington heibio i Gerhard Tremmel yn y gôl i’r Elyrch.

Ac roedd gan y Cymry fynydd i’w ddringo chwe munud cyn yr egwyl wedi i Crouch sgorio ail y tîm cartref. Methodd Abertawe ag ymdopi ag un o dafliadau hir nodweddiadol Stoke a pheniodd Crouch heibio Tremmel er y dylai’r gôl-geidwad fod wedi gwneud yn well.

Roedd tafliadau hir Ryan Shotton yn ddraenen gyson yn ystlys yr ymwelwyr a bu bron i Jon Walters ychwanegu trydedd o ganlyniad i dafliad peryglus arall ond peniodd dros y trawst.

Daeth Steven Caulker yn agos gyda pheniad i’r Elyrch yn hwyr yn y gêm hefyd ond llwyddodd gôl-geidwad Stoke, Asmir Begovic, i wyro’r ymdrech yn erbyn y trawst wrth iddi orffen yn 2-0 o blaid y tîm cartref.

Mae buddugoliaeth Stoke yn eu codi uwch ben Abertawe yn nhabl yr Uwch Gynghrair wrth i’r Elyrch ddisgyn i’r pedwerydd safle ar ddeg.