Caerdydd 2–2 Lerpwl (Lerpwl yn ennill wedi C.O.S.)

Colli fu hanes Caerdydd yn Wembley brynhawn Sul yn dilyn rownd derfynol ddramatig. Lerpwl a gododd Gwpan y Gynghrair ar ôl curo Caerdydd ar giciau o’r smotyn.

Gôl yr un oedd hi ar ddiwedd y 90 munud wedi gôl Joe Mason i’r Cymry yn yr hanner cyntaf ac ymdrech Martin Skertel i Lerpwl wedi’r egwyl.

Cafwyd gôl yr un yn yr amser ychwanegol hefyd. Roedd Dirk Kuyt yn meddwl ei fod wedi ennill y gêm ddeuddeg munud o’r diwedd ond sgoriodd Ben Turner yn hwyr hwyr i orfodi ciciau o’r smotyn.

Methodd y ddau dîm lu o giciau o’r smotyn ond amddiffynnwr Caerdydd, Anthony Gerrard, a fethodd y gic olaf dyngedfenol a bu rhaid iddo wylio’i gefnder, Steven, yn codi’r gwpan i’r tîm o Lannau Merswy.

Hanner Cyntaf

Lerpwl a ddechreuodd orau a bu ond y dim iddynt fynd ar y blaen wedi dim ond dau funud o chwarae pan darodd ergyd Glen Johnson yn erbyn y trawst. Gwrthymosododd Lerpwl yn chwim i greu’r cyfle i Johnson ar ochr y cwrt cosbi ond roedd cynnig yr amddiffynnwr fodfedd yn rhy uchel.

Daeth ail gyfle i Lerpwl wedi 18 munud pan groesodd Luis Suárez i Andy Carroll yn y cwrt chwech ond roedd peniad yr ymosodwr yn wan ac arbedodd Tom Heaton yn gyfforddus.

Yna, funud yn ddiweddarach daeth y gôl agoriadol yn erbyn llif y chwarae. Methodd Lerpwl a chlirio’r bêl a daeth Kevin McNaughton o hyd i Kenny Miller ar ochr y cwrt cosbi. Chwaraeodd yntau bêl dda i lwybr Joe Mason ar ochr dde’r cwrt cosbi a chadwodd y chwaraewr ifanc ei ben i osod y bêl rhwng coesau Pepe Reina ac i gefn y rhwyd.

Hwnnw oedd unig gyfle’r Adar Gleision yn yr hanner cyntaf mewn gwirionedd ond daeth Lerpwl yn agos eto cyn yr egwyl.

Curodd Charlie Adam Heaton gydag ergyd isel o bellter ond methodd y targed o fodfeddi. Yna daeth hanner cyfle i Carroll yn y cwrt cosbi yn dilyn cydchwarae da rhyngddo ef a Suárez ond gwnaeth Mark Hudson yn wych i gyrraedd y bêl gyntaf.

Yna, funud cyn diwedd yr hanner cafodd Daniel Agger gyfle euraidd i unioni’r sgôr gyda pheniad rhydd o gic rydd Steven Gerrard, ond roedd ei ymdrech yn wan ac yn syth at Heaton

Ail Hanner

Roedd Caerdydd yn mwynhau mwy o le yn hanner Lerpwl ar ddechrau’r ail hanner a hwythau a oedd yn edrych yn fwyaf tebygol o sgorio’r ail gôl. Cafodd Miller hanner cyfle wedi 49 munud yn dilyn sodliad hyfryd i’w lwybr gan Don Cowie ond saethodd yr Albanwr hebio’r postyn.

Ond Lerpwl a sgoriodd y gôl nesaf a hynny ar ôl awr o chwarae. Tarodd peniad Suárez yn erbyn y postyn ond adlamodd y bêl yn garedig i Martin Skertel a gwnaeth yntau’n dda i’w phasio trwy goesau Heaton. 1-1 gyda hanner awr ar ôl.

Cafodd Skertel gyfle arall yn y cwrt cosbi wedi 74 munud ond er i’r amddiffynnwr daro’r foli yn gywir fe arbedodd Heaton wrth ei bostyn agosaf. Ac arbedodd Heaton yn dda unwaith eto bedwar munud yn ddiweddarach i atal ergyd Stuard Downing o bellter.

Cafodd Caerdydd gyfle da i ennill y gêm gyda saith munud yn weddill ond peniodd Ben Turner heibio’r postyn pan ddylai fod wedi gwneud yn well.

Cafodd Miller gyfle gwell fyth i’w hennill hi ddau funud o’r diwedd wedi i Don Cowie ddod o hyd iddo yn gwbl rydd yn y cwrt cosbi ond saethodd y blaenwr dros y trawst.

Roedd Suárez yn gwbl rydd yng nghwrt cosbi Caerdydd ddau funud yn ddiweddarach ond diflannodd y cyfle yn dilyn cyffyrddiad cyntaf gwael gan y blaenwr.

Amser Ychwanegol

Efallai bod Suárez yn wastraffus ar ddiwedd y 90 munud ond daeth yn agos iawn ar ddau achlysur ym munud cyntaf yr amser ychwanegol. Gorfododd ei ergyd gic gornel i ddechrau a chafodd ei beniad o’r gic gornel honno ei chlirio oddi ar y llinell gan Andrew Taylor.

Daeth Carroll yn agos gyda pheniad da tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf ond amddiffynnodd Caerdydd yn gyfforddus iawn ar y cyfan.

Ond wedi’r holl waith caled fe ildiodd yr Adar Gleision gyda dim ond deuddeg munud ar ôl. Roedd ergyd gyntaf Dirk Kuyt yn un wael a chafodd ei chlirio gan yr eilydd, Anthony Gerrard, ond daeth hi’n ôl at Kuyt ac roedd ei ail gynnig yn llawer gwell a churodd Heaton wrth ei bostyn agosaf.

Ond wnaeth y Cymry ddim rhoi’r ffidl yn y to a chawsant eu haeddiant ddau funud o ddiwedd yr amser ychwanegol. Bu bron iddynt sgorio o gic gornel ond peniodd Kuyt y bêl oddi ar y llinell am gic gornel arall. Ac o’r gic honno disgynnodd y bêl i Turner a sgoriodd yr amddiffynnwr i orfodi ciciau o’r smotyn.

Ciciau o’r Smotyn

Cafwyd dechrau da i Gaerdydd wrth i Gerrard ac Adam fethu i’r Cochion ac roeddynt ar y blaen diolch i gic lwyddiannus Cowie.

Ond roedd hi’n gyfartal ar ôl tair cic yr un wedi i Kuyt sgorio i Lerpwl a Rudy Gestede fethu i’r Adar Gleision.

Sgoriodd Downing a Johnson i Lerpwl a Wittingham i Gaerdydd i’w gwneud hi’n 3-2 i’r tîm o’r Uwch Gynghrair ac felly roedd y pwysau i gyd ar Anthony Gerrard.

Yn anffodus, anelodd yr eilydd ei gic heibio i’r postyn gan gyflwyno’r gwpan i’w gefnder a chapten y gwrthwynebwyr, Steven Gerrard.

Roedd yn berfformiad arwrol gan yr Adar Gleision ond yn awr bydd rhaid iddynt ganolbwyntio ar y Bencampwriaeth. A phwy a ŵyr, efallai y daw cyfle i dalu’r pwyth yn ôl i Lerpwl yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.