Munster 16–13 Gleision

Colli fu hanes y Gleision yn erbyn Munster ym Mharc Thomond nos Wener er gwaethaf perfformiad da yn yr ail hanner. Roedd y  rhanbarth o Gymru 13 pwynt ar ei hôl hi ar yr egwyl yn y gêm RaboDirect Pro12 ac er iddynt frwydro’n ôl yn dda yn yr ail hanner bu rhaid iddynt ddychwelyd gyda phwynt bonws yn unig.

Hanner Cyntaf

Cafwyd chwarter awr agoriadol hynod ddiflas i’r gêm diolch i gyfres o sgrymiau’n dymchwel. A daeth pwyntiau cyntaf y gêm o ganlyniad i un o’r sgrymiau hynny wedi pum munud o chwarae, pac Munster yn dymchwel a Dan Parks yn cicio’r tri phwynt i’r Gleision.

Ond unionodd maswr Munster, Ian Keatley, y sgôr wedi naw munud gyda chic gosb i’r tîm cartref.

Yna wedi cyfres o sgrymiau arall fe ddeffrodd y Gwyddelod gan sgorio cais da toc wedi chwarter awr o chwarae. Y cefnwr, Felix Jones, a oedd y sgoriwr ond yr asgellwr, Simon Zebo, a wnaeth y gwaith caled. Rhedodd ar ongl dda i hollti amddiffyn y Gleision cyn pasio i roi’r cais ar blât i Jones. Ychwanegodd Keatley y trosiad i roi mantais o saith pwynt i’r tîm cartref.

Fe ychwanegodd y maswr chwe phwynt arall gyda’i droed yn y deg munud canlynol wrth i’r Gleision gael eu cosbi am eu diffyg disgyblaeth, 16-3 i Munster wedi 25 munud.

Roedd Zebo yn meddwl ei fod wedi sgorio ei hunan chwe munud cyn yr egwyl ond barnodd y dyfarnwr cynorthwyol fod y bêl wedi adlamu dros yr ystlys cyn i’r asgellwr ei thirio.

Gorffennodd y Gleision yr hanner yn well ond doedd dim awgrym fod amddiffyn Munster am ildio cais mewn gwirionedd wrth iddi aros yn 16-3 o blaid y tîm cartref ar hanner amser.

Ail Hanner

Dechreuodd y Gleision yr ail hanner yn llawer gwell a chawsant gais haeddianol wedi saith munud. Bylchodd Gavin Henson trwy’r canol cyn derbyn cefnogaeth gan Martyn Williams, yna ailgylchwyd y bêl yn gyflym cyn ei lledu i Richard Mustoe ar yr asgell dde. Tasg hawdd oedd sgorio i’r asgellwr ac wedi trosiad da Parks o’r ystlys dim ond chwe phwynt oedd rhwng y ddau dîm.

Parhau i reoli’r gêm a wnaeth y Gleision wedi hynny ond methodd Parks gyfle i gau’r bwlch ymhellach pan fethodd gic gosb wedi 53 munud.

Ond roedd y Cymry o fewn tri phwynt toc wedi’r awr ar ôl i’r eilydd, Ben Blair, lwyddo gyda’i gynnig cyntaf at y pyst.

Bu rhaid i’r rhanbarth o Gymru amddiffyn am eu bywydau am ddeg munud wedi i’r capten, Paul Tito, gael ei anfon i’r gell gosb am ladd y bêl ar linell gais y Gleision  wedi 67 munud, ond gwnaeth y pac yn dda i oresgyn cyfres o sgrymiau a dianc o’i hanner eu hunain.

Fe bwysodd y Gleision wedyn yn y munudau olaf gan chwilio am y cais a fyddai wedi cipio’r fuddugoliaeth iddynt ond er iddynt gadw’r bêl am bum cymal ar hugain ni ddaeth y cais a bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt bonws am golli o fewn saith pwynt.

Ymateb

Roedd y Gleision yn dîm gwahanol yn yr ail hanner ac yn haeddu mwy na phwynt bonws yn y diwedd ac felly y gwelodd Gavin Henson bethau hefyd:

“Ry’n i’n siomedig ein bod ni wedi colli, fe roesom ni ormod iddyn nhw yn yr hanner cyntaf. Ond wnaethom ni ddim colli ffydd, roeddem yn teimlo y gallem ddod yn ôl iddi yn yr ail hanner ac fe wnaethom ni hynny ond mae hi’n anodd iawn yn fan hyn, yn enwedig gyda phedwar dyn ar ddeg.”

Mae’r Gleision yn aros yn y chweched safle yn nhabl y RaboDirect Pro12 er gwaethaf y golled.