Mae Raymond Verheijen wedi cyhoeddi ar Twitter ei fod wedi gadael ei swydd yn hyfforddwr cynorthwyol Cymru.

“Yn gynharach heddiw fe gafodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru wybod fy mod i am ymddiswyddo,” meddai ar y wefan rhwydweithio gymdeithasol.

“Rydw i wedi cael digon o’u gemau gwleidyddol dinistriol. Mae’n ddiwrnod trist iawn.”

Yn ddiweddarach trydarodd eto gan ddweud ei fod yn “falch iawn” o fod wedi cael bod yn rhan o’r tîm ac yn diolch i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr am “daith anhygoel”.

Yn sgil ei gyhoeddiad ar y wefan mae’r hyfforddwr o’r Iseldiroedd wedi ei feirniadu gan drydarwyr eraill am ymddiswyddo cyn gêm goffa Gary Speed yn erbyn Costa Rica ar 29 Chwefror.

Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi cadarnhau ymddiswyddiad Raymond Verheijen.

“Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi derbyn ei ymddiswyddiad, gyda gofid, gan gofio bod Raymond ar fin cynorthwyo sgwad Cymru’r wythnos hon cyn y gêm yn erbyn Costa Rica, oedd yn cael ei gynnal er cof am y rheolwr Gary Speed fu farw ym mis Tachwedd y llynedd,” meddai llefarydd.

“Hoffai Cymdeithas Pêl-droed Cymru ddiolch i Raymond am ei waith dros y 12 mis ddiwethaf a dymuno’n dda iddo yn y dyfodol.”