Brendan Rodgers
B’nawn Sul bydd Abertawe yn teithio i herio Stoke yn Stadiwm Britannia yng nghanolbarth Lloegr.

Y tro diwethaf i’r ddau dîm yma gwrdd, Yr Elyrch fu’n fuddugol yn Stadiwm Liberty o ddwy gôl i ddim.

Ond a’r ôl colli 3-2 i Norwich y penwythnos diwethaf, mae’n siwr y bydd Abertawe a’r dân i geisio cipio’r pwyntiau.

Mae gan reolwr Abertawe Brendan Rodgers digon o ddewis yn ei garfan nerthus wrth bigo ei dîm i herio bois cryf Stoke.

Mae Rodgers yn ceisio gwella o’r ffliw ar gyfer y gêm. Daw’r chwaraewr canol cae Joe Allen yn ôl i ffitrwydd, ar ôl iddo golli’r gêm yn erbyn Norwich y penwythnos diwethaf.

Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd Kemy Agustien yn methu’r gêm a’r ôl cael ei anafu mewn sesiwn ymarfer. Ac mae amheuaeth am ei gyd-chwaraewr canol cae Andrea Orlandi oherwydd anaf i’w llinyn y gâr.  Mae yna gyfle i Curtis Obeng wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb ers iddo symud o Wrecsam.