Gethin Jenkins yn lliwiau'r Gleision
Gyda’r newyddion heddiw mai Gethin Jenkins yw’r chwaraewr rygbi Cymreig diweddaraf i adael am Ffrainc, Aled Price sy’n gofyn faint o argyfwng yw’r sefyllfa i rygbi Cymru?
Ydy’r dyfodol yn edrych yn dda i ranbarthau Cymru? Ar y foment, ddim yn siŵr.
Mae’r gêm yng Nghymru yn wrthgyferbyniad llwyr ar hyn o bryd. Ar y llwyfan rhyngwladol, mae Cymru’n mwynhau cyfnod o lwyddiant – rownd gynderfynol Cwpan y Byd a dwy allan o ddwy yn y Chwe Gwlad.
Ac mae’r dyfodol hyd yn oed fwy cyffrous na’r presennol. Gallwch deimlo’r cynnwrf ymhlith y cyhoedd, mae’r feel-good factor yn ôl.
Rhanbarthau mewn argyfwng?
Serch hynny, wrth i chi ddisgyn lefel i’r rhanbarthau, lle mae arwyr y tîm cenedlaethol yn ennill y mwyafrif o’u cyflog, nid yw pethau mor llewyrchus.
Mae’r rhanbarthau’n rhedeg allan o arian gan nad yw’r model presennol yn gweithio. Mae cipolwg ar faint y torfeydd yn dweud y cyfan, a dyw pethau dim mynd i wella os nad ydy prif chwaraewyr tîm Cymru yn chwarae i’w ranbarthau.
Yn anffodus dyna’n union sy’n digwydd – mae’r ecsodus o Gymry ar ei eithaf. Rydym wedi darganfod heddiw mai Gethin Jenkins yw’r chwaraewr diweddaraf i’w ddenu gan yr arian mawr yn Ffrainc – Toulon yw ei gyrchfan.
Mae sôn hefyd, bod Jonathan Davies wedi bod mewn trafodaeth efo Northampton. Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Gatland bod Huw Bennett ar ei ffordd allan o’r Gweilch. Mae Aled Brew a Luke Charteris wedi cadarnhau eu bod yn symud i Ffrainc hefyd.
Gormod o arian dros y môr
Y ffaith syml yw, dyw’r arian sydd angen i gadw’r chwaraewyr gorau jyst ddim yma yng Nghymru ar hyn o bryd.
Ar y foment, rygbi yw ‘hobi’ y bobol gyfoethocaf yn Ffrainc. Mae gan y timau Ffrengig ‘cap cyflog’ o €8.7m am y tymor nesaf – bydd cap y rhanbarthau Cymreig yn llai na hanner hynny, sef £3.5m. Mae mathemateg syml yn dweud y stori’n llawn. Dywedodd Peter Thomas, cadeirydd y Gleision, bod rhanbarthau Cymru’n mynd i ymatal rhag talu eu chwaraewyr Cenedlaethol pan eu bod yn chwarae i Gymru.
Mae dadleuon o blaid y ddwy ochr wrth gwrs.
Allwch chi ddim beio’r bobol sy’n talu cannoedd o filoedd o bunnoedd ar gyflogau am fod yn amharod i dalu’r symiau mwyaf i chwaraewyr sydd dim hyd yn oed yno am tua hanner y flwyddyn.
Ar y llaw arall, dim ond un yrfa sydd gan y chwaraewyr, ac mae’n rhaid iddynt wneud y gorau o ennill arian tra bod cyfle. Os oes digonedd o arian ar gael iddynt tu allan i Gymru, yna allwch chi ddim eu beio nhw am fanteisio ar hynny.
Safon well?
Yn fy marn i, nid yw’r llif o chwaraewyr sy’n gadael Cymru yn beth mor ddrwg â hynny i’r tîm cenedlaethol. Does dim amheuaeth gen i bod y Top 14 yn cynnig safon well o wythnos i wythnos na’r RaboDirect Pro12. Os yw’r chwaraewyr yn chwarae’n gyson yn Ffrainc, byddant yn gwella ac yn dod chwaraewyr cyflawn. Dyna’r ffactor bwysig i mi, chwarae’n gyson.
Mae Gethin ar ei ffordd i Toulon ond mae Toulon newydd gyhoeddi eu bod wedi arwyddo Andrew Sheridan o Sale hefyd. Felly bydd rhaid i Gethin gystadlu efo Sheridan am le ar y tîm. Mae’n bosib iawn felly y bydd un o chwaraewyr pwysicaf Cymru’n eistedd ar y fainc y rhan fwyaf o’r amser! I’r Gleision, byddai Gethin yn dechrau bron pob gêm. Heb os, mae hyn yn broblem i’r tîm cenedlaethol.
Wrth gwrs mae problemau hefyd yn codi ynglŷn â sicrhau caniatâd i ryddhau chwaraewyr yn gynnar i ymarfer gyda Chymru. Y penwythnos diwethaf, roedd rhaid i Mike Phillips a James Hook (i enwi dau) ddychwelyd i’w clybiau i chwarae mewn gêm gynghrair.
Mae’r rhaid bod nerfau Gatland yn rhacs wrth iddo ofni clywed am anafiadau i chwaraewyr fel hyn! Yn anffodus, bydd hon yn fwy o gur pen i’r hyfforddwr wrth i fwy a fwy chwaraewyr ennill eu cyflog tu allan i Gymru.
Nid diwedd y byd
Cofiwch chi, dyw’r newyddion diweddar ddim yn ddrwg i gyd.
Mae Adam Jones, chwaraewr pwysicaf Cymru yn fy nhyb i, wedi cytuno i aros efo’r Gweilch am y tro. Mae cyn gapten Cymru, Matthew Rees wedi dweud yn gyhoeddus bod rhaid atal y llif o chwaraewyr sy’n gadael. Felly dyw hi ddim fel petai bod holl dîm Cymru’n chwarae dramor.
Un peth da i’r rhanbarthau a Chymru yn hyn oll yw bod cyfleoedd di-ri yn codi i chwaraewyr ifanc.
Mae’r tîm cenedlaethol cyfredol wedi’i adeiladu ar seiliau chwaraewyr ifanc ac rydym wedi gweld yr effaith positif mae hyn gallu cael. Mae’r Scarlets wedi datblygu carfan ifanc sy’n hynod o gystadleuol ac mae’r Gweilch yn ceisio gwneud yr un peth.
All hyn ddim ond bod yn fanteisiol i’r tîm cenedlaethol. Efallai na welwn ni ranbarth yn ennill Cwpan Ewrop am dymhorau i ddod, ond efallai y cawn ni weld Cymru’n ennill Cwpan y Byd mewn 4 neu 8 mlynedd. Wy’n gwybod beth fyddai’n well gen i…