Ray Verheijen
Roedd Ray Verheijen yn gwybod ers wythnosau ei fod yn rheoli tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Costa Rica, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru heddiw.
Roedd yr Gymdeithas yn ymateb i honiadau Verheijen mewn neges Twitter neithiwr mai newyddiadurwr oedd wedi dweud wrtho am y cynllun ei fod yn rheoli’r tîm ar y cyd ag Osian Roberts.
“Does neb o’r FAW wedi gadael i mi wybod am hyn,” trydarodd Verheijen neithiwr.
Ond dywedodd Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Cymru wrth Golwg 360 heddiw: “Dwi ddim yn gwybod pam mae o di dweud hyn.”
Dywedodd Ian Gwyn Hughes fod Chris Coleman wedi trafod y trefniadau penodol ar gyfer y gêm gyda Ray Verheijen mewn cyfarfod ar Chwefror 8.
“Roedd Raymond ei hun wedi dweud iddo gael cyfarfod positif gyda Chris,” meddai .
Rheoli’r tîm yng Ngêm Goffa Gary Speed
Y bwriad oedd i Ray Verheijen reoli’r tîm ar y cyd gydag Osian Roberts, hyfforddwr tîm Cymru, ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Costa Rica.
Bwriad Chris Coleman, rheolwr newydd y tîm cenedlaethol, yw cymryd cam yn ôl ar gyfer Gêm Goffa Gary Speed, allan o barch i’w ragflaenydd.
Dywedodd Ian Gwyn Hughes fod Osian Roberts wedi datgan mewn cynhadledd i’r wasg ddoe mai ef a Ray Verheijin fyddai’n rheoli’r tîm yn y gêm yn erbyn Costa Rica.
“Y cwbl allwn ni ddweud yw beth mae Osian a Chris wedi dweud,” ychwanegodd Ian Gwyn Hughes. “Ac fel roedd Osian wedi dweud ddoe, fo a Ray fydd yn rheoli’r tîm, a Chris yn cymryd cam yn ôl.”
Dywedodd Ian Gwyn Hughes fod y Gymdeithas Bêl-droed yn aros i glywed gan Ray Verheijen, er mwyn ceisio deall pam ei fod wedi gwneud y sylwadau.
Mi fydd Gêm Goffa Gary Speed yn cael ei chynnal yn stadiwm Dinas Caerdydd ar Chwefror 29, am 7.45pm.