Jonathan Davies
Mae na honiadau mewn papur newydd lleol bod Jonathan Davies mewn trafodaethau gyda Seintiau Northampton ynglŷn â throsglwyddiad yno ar ddiwedd y tymor.

Roedd yr honiadiau wedi ymddangos ym mhapur y Northampton Chronicle & Echo ddoe.

Mae Jonathan Davies, 23, yn ganolwr i’r Sgarlets a Chymru, ac yn bartner i Jamie Roberts yng nghanol y tîm cenedlaethol.

Os yn wir, mae’n ymddangos fod y cnewyllyn o chwaraewyr Cymreig sy’n gadael i chwarae dramor yn dechrau troi yn orlif.

Mae cytundeb Jonathan Davies gyda’r Sgarlets yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Roedd Davies yn un o sêr Cymru yng nghwpan y Byd 2011, ac mae e wedi sgorio dau gais i Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad hyd yma.

Trwy gyd-ddigwyddiad, roedd gêm gyntaf Jonathan Davies i’r Sgarlets yn erbyn Northampton yn 2006.

Cyflogau

O’r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd pob rhanbarth Cymreig yn wynebu ‘cap cyflogau’ o £3.5m.

Mae nifer sylweddol o chwaraewyr amlycaf Cymru eisoes wedi gadael i chwarae yn Ffrainc. Mae James Hook, Lee Byrne a Mike Phillips yn chwarae rygbi yn Ffrainc erbyn hyn.

Ar ben hynny mae Aled Brew a Gethin Jenkins wedi datgan yn yr wythnosau diwethaf eu bod nhw am adael Cymru i chwarae yn Ffrainc, yn ogystal â Luke Charteris ynghynt yn y tymor.

Roedd disgwyl i’r cap cyflogau gael effaith ar benderfyniadau chwaraewyr Cymreig. Ond fe fydd yna bryder cynyddol bod y mwyafrif o dîm Cymru yn chwarae tu hwnt i Glawdd Offa.