Gethin Jenkins
Mae’r prop Gethin Jenkins wedi cadarnhau ei fod yn gadael Gleision Caerdydd. Mae Jenkins wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd gyda Toulon, lle fydd yn ymuno gyda Jonny Wilkinson, Matt Giteau a Bakkies Botha.

Mae’n dilyn nifer o chwaraewyr rhyngwladol y Gweilch sydd wedi symud i chwarae yn Ffrainc. Erbyn hyn mae Mike Phillips, James Hook a Lee Byrne yn chwarae rygbi yno.

Mae Aled Brew wedi cyhoeddi ei fod e’n gadael Dreigiau Casnewydd Gwent i ymuno gyda Biarritz. Yn achos Brew, dywedodd ei fod e’n hapus nad oedd e yng ngharfan tîm rygbi Cymru.

Mae yna sïon hefyd fod Luke Charteris yn darged i Perpignan.

Dim surni

“Bydda i yn sicr ddim gyda’r Gleision blwyddyn nesaf,” dywedodd Gethin Jenkins wrth y Western Mail.

“Roedd rhaid i fi feddwl am y dyfodol,” dywedodd, “fel byddai unrhyw chwaraewr neu unrhyw un o gefndir arall yn gwneud.”

“Bydd yna ddim surni, ac fe fydda i yn rhoi popeth i’r Gleision rhwng nawr a diwedd y tymor, fel dwi wedi gwneud erioed.”

Mae Gethin Jenkins wedi ennill 84 cap i Gymru, ac wedi chwarae pum gêm prawf i Lewod Prydain ac Iwerddon. Mae’n cael ei adnabod fel un o bropiau gorau’r byd.

Mae pryder ynglŷn a’r nifer cynyddol o chwaraewyr sy’n gadael i Ffrainc, yn erbyn cefndir cythryblus i’r gêm ranbarthol yng Nghymru.

Mae rhanbarthau Cymreig yn ei chael hi’n anodd cystadlu gyda’r arian sydd ar gael i chwaraewyr yn Ffrainc.

Ac wrth gwrs y bwyd a’r haul.