Alun Wyn Jones
Bydd Alun Wyn Jones yn dychwelyd i’r cae rygbi nos Wener ar ôl methu bron i dri mis oherwydd anaf i fys ei droed, ond cyfaddefodd ei fod yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r Gweilch.
Dioddefodd yr anaf ar y cae hyfforddi yn ystod y cyfnod cyn y gêm yn erbyn Treviso mis Hydref yng nghystadleuaeth Cwpan Heineken.
Ers iddo gael ei anafu, mae’r tîm hyfforddi wedi bod yn amharod i osod terfyn amser ar gyfer ei gêm nesaf.
Mae Jones ei hun wedi cydnabod ei fod braidd yn anodd derbyn bod anaf fel hyn wedi ei gadw allan am gyfnod mor hir.
‘‘Maen nhw’n dweud wrthych, ‘Dim ond anaf bach yw ‘e. Dw i ddim eisiau cydymdeimlad, mae’n rhan o’r gêm. Ond rwy’n dychwelyd yn gynt na’r disgwyl,’’ meddai’r clo rhyngwladol.
Dros y tri mis diwethaf, mae Jones wedi treulio llawer o amser yn Stadiwm Liberty, ond fel cefnogwr yn unig.
‘‘Rwyf wedi bod yn y dorf yn rheolaidd yn gwylio’r tîm. Rwy’n hynod o ddiolchgar i’r holl gefnogwyr sydd wedi fy ngweld yn y gemau a dangos diddordeb a gofyn sut hwyl sydd arnaf ac yn holi am yr anaf, rwy’n gwerthfawrogi hynny’n fawr iawn. Ond erbyn hyn rwy’n falch o allu mynd yn ôl i chwarae, gan ddechrau y penwythnos yma,’’ ychwanegodd.