Dan Lydiate
Fe gyhoeddwyd prynhawn ma y bydd Gethin Jenkins a Dan Lydiate ar gael i chwarae yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Mae’r ddau wedi gwella o’u hanafiadau.
Ryan Jones fydd yn cymryd lle Bradley Davies, er nad yw safle’r clo yn un naturiol i’r gŵr o’r rheng ôl.
Ac mae’r capten Sam Warburton yn barod i arwain y tîm, ar ôl gwella o anaf i’w goes.
Fe gyhoeddodd y rheolwr Warren Gatland ei dîm a fydd yn wynebu’r Alban ddydd Sul:
CYMRU: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Rhys Priestland, Mike Phillips; Gethin Jenkins, Huw Bennett, Adam Jones, Ryan Jones, Ian Evans, Dan Lydiate, Sam Warburton (C), Toby Faletau
EILYDDION: Ken Owens, Paul James, Lou Reed, Andy Powell, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams
‘Profiad’
Mae’r Llew Prydeinig Gethin Jenkins wedi gwella o anaf i’w ben-lin, ac yn cymryd lle Rhys Gill o’r Saraseniaid yn y rheng flaen.
Er iddo chware’n dda wrth ennill ei ail gap yn erbyn Iwerddon, mae Rhys Gill wedi ei ollwng o’r tîm, a ni fydd ar y fainc ’chwaith.
Mae Jenkins wedi ennill 83 cap yn ei yrfa, ac yn cael ei adnabod fel un o sgrymwyr gorau’r byd.
“Daw Gethin a chyfoeth o brofiad i’r tîm, sef y prif reswm mae’n cael ei le o flaen Rhys, sy’n anlwcus i golli allan gyda Paul James yn gallu chwarae’r ddau ochr o’r sgrym ar y fainc,” dywedodd Warren Gatland.
Dan Lydiate sy’n camu i’r bwlch yn y rheng ôl, wrth i Ryan Jones symud i’r rheng ganol.
Bydd Ryan Jones yn cyrraedd trigain o gapiau yn erbyn y Gwyddelod.
Gatland yn rhybuddio bydd yr Albanwyr llawn hyder
Bydd yna un newid arall ar y fainc, gyda chlo’r Sgarlets Lou Reed yn cael y cyfle i ennill ei gap cyntaf.
“Gallwn ni byth fforddio ymlacio yn erbyn yr Alban,” dywedodd Gatland, gan gyfeirio at gêm yr Alban yn erbyn Lloegr wythnos ddiwethaf.
“Fe ddylen nhw fod wedi ennill y gêm, a byddan nhw’n llawn hyder yn dod i Stadiwm y Mileniwm gan wybod hynny.”