Brendan Rodgers
Mae rheolwr yr Elyrch Brendan Rodgers wedi arwyddo cytundeb i aros gyda’r clwb am dair blynedd a hanner tan haf 2015.
Roedd Rodgers wedi arwain yr Elyrch i ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn ei dymor cyntaf fel rheolwr a chyfres o berfformiadau trawiadol yn dilyn hynny.
‘‘Mae’n bleser gen i lofnodi’r cytundeb newydd. Rwyf yn falch o’m gwaith hyd yn hyn,’’ meddai Rodgers.
‘‘Ni allwn fod wedi breuddwydio am bethau gwell. Rydych yn cael eich barnu fel arfer yn wrthrychol dros gyfnod o amser, ond roeddwn yn ymwybodol fod angen i mi wneud argraff mewn cyfnod byrrach o lawer,’’ ychwanegodd Rodgers.
Llwyddiant
Gwrthododd Rodgers gyfle i ddod yn rheolwr i dîm Gogledd Iwerddon ym mis Rhagfyr 2011, ac yn cael ei nodi fel un o’r rheolwyr mwyaf nodedig ifanc mewn pêl-droed ym Mhrydain oherwydd llwyddiant ei dîm ar gyllideb isel.
Ar hyn o bryd mae Abertawe yn y ddegfed safle yn eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair, 10 pwynt yn glir o safleoedd y cwymp gyda 14 gêm ar ôl.
Dechreuodd trafodaethau ynglŷn a’i gytundeb ychydig o ddyddiau ar ôl buddugoliaeth trawiadol yn erbyn Arsenal.
Mae Huw Jenkins, cadeirydd y clwb, wedi dweud ei fod yn falch o sicrhau Rodgers ar gytundeb tymor hir, dim ond diwrnod ar ôl cyfaddef bydd Rodgers yn cael ei dargedu gan glybiau yn yr Uwch Gynghrair yn y dyfodol agos.
‘‘Mae Brendan wedi dangos yr hyn mae’n gallu gwneud dros y tymhorau diwethaf ac mae’r hyn mae e wedi gwneud i ni hyd yn hyn wedi bod yn wych,’’ meddai Jenkins.
‘‘Roedd ei bersonoliaeth a’i rinweddau aruthrol wedi tynnu ein sylw, ac yn gwbl amlwg mai ef oedd y person i wthio’r clwb yma yn ei blaen. Mae ef yn bwysig i ni, felly roedd yn hanfodol i ni ddatrys ei gytundeb,’’ ychwanegodd.