Brew - Sgoriwr y Dreigiau
Perpignan 27–13 Dreigiau

Mae’r Dreigiau allan o’r Cwpan Amlin ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Perpignan yn y Stade Aime Giral. Fe frwydrodd y rhanbarth o Gymru yn ddewr ond roedd y tîm o Gatalwnia yn rhy gryf yn y diwedd.

Dechrau Drwg i’r Dreigiau

Cafodd y Dreigiau ddechrau erchyll i’r gêm wrth ildio cic gosb wedi dim ond 5 eiliad! Bachwr y Dreigiau, Steve Jones, yn atal un o redwyr Perpignan a’r cefnwr, Jermoe Porical yn trosi’r tri phwynt cynnar i’r tîm cartref.

Roedd pac y Dreigiau o dan bwysau ac roeddynt wedi ildio dwy gic gosb arall o fewn y chwarter awr cyntaf. Trosodd Porical y ddwy, y naill wedi saith munud a’r llall wedi 12 munud.

Daeth pwyntiau cyntaf yr ymwelwyr o Gymru wedi 16 munud pan drosodd Matthew Jones gic gosb yn dilyn trosedd yn ardal y dacl gan Perpignan.

Doedd y Dreigiau ddim yn chwarae’n wael yn y chwarter agoriadol ond roedd cicio cywir Porical yn cosbi pob camgymeriad a throsodd ei bedwaredd cic wedi 21 munud i gynyddu mantais y tîm o Gatalwnia i naw pwynt, 12-3 hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Ychwanegodd Porical dri phwynt arall wedi 33 munud cyn i Jones fethu gyda chynnig at y pyst ddau funud yn ddiweddarach. Ond cafodd y Dreigiau hwb bach ddau funud cyn yr egwyl wrth i Porical fethu am y tro cyntaf yn y gêm, 15-3 ar yr egwyl.

Cais Cynnar i Brew

Roedd y Dreigiau yn ôl yn y gêm yn gynnar yn yr ail hanner diolch i gais Aled Brew wedi 42 munud. Cafwyd tacl gref gan Adam Hughes ar Nicolas Laharrague yng nghanol y cae a chydiodd Brew yn y bêl rydd ac er i Adrien Plante geisio ei daclo ar y llinell roedd asgellwr y Dreigiau yn rhy gryf a hyrddiodd dros y gwyngalch. Llwyddodd Jones gyda’r gic gan gau’r bwlch i bum pwynt, 15-10 yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Cardiau Melyn

Roedd diffyg disgyblaeth wedi nodweddu’r gêm drwyddi draw a chafwyd cyfres o gardiau melyn hanner ffordd trwy’r ail hanner. Anfonwyd Rob Sidoli i’r gell gosb wedi 55 munud am drosedd yn ardal y dacl.

A manteisiodd Perpignan bron yn syth gyda chais i’r bachwr, Charles Geli. Taflodd i flaen y lein cyn derbyn y bêl yn ôl a chroesi yn y gornel chwith. Llwyddodd Porical gyda’r trosiad, 22-10 i’r tîm cartref.

Yna, ymunodd dau o chwaraewyr Perpignan â Sidoli yn y gell. Cafwyd dwy dacl beryglus gan y ddau eilydd, Armand Bartlle a Robins Tchale-Watchou yn yr un symudiad ac anfonwyd y ddau i gallio am ddeg munud.

Ond methodd y Dreigiau a manteisio yn llawn. Fe drosodd Jones un gic gosb i’w gwneud hi’n 22-13 ond dyna oedd pwyntiau olaf y rhanbarth o Gymru.

Ac i rwbio halen yn y briw fe ddychwelodd Tchale-Watchou i’r cae i sgorio cais arall i’r Ffrancwyr yn y munudau olaf. Methodd Porical y trosiad ond roedd y fuddugoliaeth yn sâff i’r tîm cartref.

Roedd gobeithion y Dreigiau o fynd ym mhellach yn y gystadleuaeth yn fain cyn y gêm heno ond maent drosodd ar ôl y golled hon yn ne Ffrainc heno. Mae’r Dreigiau yn aros yn drydydd yn grŵp 4 gyda dim ond un gêm ar ôl.