Bala 3–1 Lido Afan

Bala oedd yn fuddugol yn gêm fyw Sgorio o Faes Tegid brynhawn Sadwrn. Sgoriodd Lee Hunt ddwy gôl wrth i’r Bala sicrhau buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Lido Afan yn Uwch Gynghrair Cymru.

Gôl Gynnar

Aeth y Bala ar y blaen wedi dim ond naw munud wrth i Lee Hunt rwydo o’r smotyn. Cafodd Rhys Darlington ei dynnu i’r llawr gan Carl Evans yn y cwrt cosbi a chamodd Hunt at y smotyn cyn rhwydo’n hyderus i gornel isaf y rhwyd.

Roedd tafliadau hir Lido Afan i’r cwrt cosbi yn achosi ychydig o broblemau i amddiffyn y Bala wrth i’r ymwelwyr geisio taro’n ôl ond ychydig o gyfleoedd a greodd tîm Andy Dyer yn yr hanner cyntaf. Ond ychydig iawn a greodd y Bala hefyd ar gae mwdlyd Maes Tegid.

Wedi dweud hynny, dylai Hunt fod wedi sgorio ei ail ef ac ail ei dîm ddau funud cyn yr egwyl wedi i Mark Jones ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi gyda phas hir wych o’r cefn. Roedd cyffyrddiad cyntaf Hunt i fynd a’r bêl heibio i Chris Curtis yn y gôl i Lido yn berffaith ond collodd ei gydbwysedd wrth ergydio a saethu’r bêl heibio i’r postyn.

Ail Hanner

Cafwyd ychydig mwy o gyffro yn yr ail hanner wrth i Lido Afan wneud gêm ohoni. Cafodd Anthony Finselbach gêm dda i’w glwb newydd a bu bron iddo unioni’r sgôr i Lido wedi 54 munud gydag ergyd dda o 20 llath a mwy ond heibio i’r postyn aeth hi.

Dylai’r eilydd, Mark Jones, fod wedi sgorio i Lido ar yr awr pan ddisgynnodd y bêl iddo yn y cwrt chwech yn dilyn gwaith da Daniel Thomas ond cafodd ergyd Jones ei hatal ar y llinell gan amddiffynnwr y Bala, John Irving. Do, fe wnaeth Irving yn dda ond dylai Jones fod wedi sgorio.

Ac roedd yr ymwelwyr o Bort Talbot yn meddwl eu bod yn haeddu cic o’r smotyn ddau funud yn ddiweddarach wedi i Michael Byron dynnu Chad Bond i’r llawr yn y cwrt cosbi. Ond gwrthod ei rhoi hi a wnaeth Richard Harrington ac o fewn pum munud roedd y Bala wedi dyblu eu mantais. A dipyn o gôl oedd hi hefyd, ergyd gywir o 20 llath o droed chwith Mark Jones a dim gobaith i Curtis yn y gôl.

Lido’n Taro’n Ôl

Fe gafodd Lido Afan eu cic o’r smotyn wedi 78 munud a doedd dim amheuaeth amdani y tro hwn. Newydd ddod i’r cae fel eilydd oedd Liam Thomas pan gafodd ei lorio gan McCormick yn y cwrt cosbi a rhwydodd Andy Hill o 12 llath i greu diweddglo diddorol i’r gêm.

A byddai pethau wedi bod yn ddiddorol iawn pe bai Lido wedi sgorio eto mewn llanast  llwyr yng nghwrt cosbi’r Bala wedi 86 munud ond tarodd ergyd Mark Jones yn erbyn y postyn cyn i McCormick arbed ymdrech Hill yn wych.

A sicrhaodd Hunt y fuddugoliaeth i’r Bala ddau funud cyn y diwedd. Roedd ymosodwr y Bala yn gryfach na Carl Payne ar ochr y cwrt cosbi ac anelodd y bêl yn gelfydd dros Curtis i sicrhau’r tri phwynt.

Bu bron i Hunt sgorio’i hatric yn y munudau olaf ond tarodd ei ergyd yn erbyn y trawst.

Nid yw’r canlyniad yn newid dim yn y tabl wrth i’r Bala aros yn bumed a Lido Afan yn wythdfed.