Tolley - Sgoriwr y gôl gyntaf
Tamworth 1–2 Wrecsam
Mae Wrecsam yn ôl ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square ar ôl curo Tamworth yn y Lamb Ground heddiw. Roedd goliau Jamie Tolley a Jake Speight yn yr hanner awr cyntaf yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r tîm o ogledd Cymru.
Dim ond pum munud a oedd wedi mynd pan roddodd Andy Morrell y bêl i Tolley 25 llath o’r gôl. A saethodd y chwaraewr canol cae gan guro Joe Collister yn y gôl i Tamworth.
Cafodd Speight gyfle i ddyblu’r fantais wedi 27 munud ond arbedodd Collister yn gyfforddus. Ond llwyddodd Speight i rwydo ail ei dîm ddau funud yn ddiweddarach yn dilyn gwaith da Jay Harris.
Bu rhaid i Joslain Mayebi arbed ymdrech Iyseden Christie yn eiliadau olaf yr hanner i gynnal mantais yr ymwelwyr ond roedd y Dreigiau yn gymharol gyfforddus ar y cyfan.
Arbedodd Collister ymdrechion Curtis Obeng a Tolley yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Callum Wilson dynnu un yn ôl i’r tîm cartref wedi 53 munud. Cafodd Wilson gyfle arall ddeg munud yn ddiweddarach ond arbedodd Mayebi y tro hwn.
A bu bron i Wrecsam ychwanegu trydedd hefyd ond tarodd peniad Nathaniel Knight-Percival yn erbyn y postyn. 2-1 y sgôr terfynol felly wrth i dymor gwych y Dreigiau barhau.
Hon oedd yr unig gêm yn y Gyngres heddiw ac mae’r canlyniad yn codi tîm Andy Morrell yn ôl i frig y tabl, ddau bwynt uwch ben Fleetwood yn yr ail safle.