Doncaster 0–0 Caerdydd

Di sgôr oedd hi yn Stadiwm Keepmoat heddiw rhwng tîm Dean Saunders, Doncaster, a Chaerdydd. Hon oedd degfed gêm gyfartal yr Adar Gleision yn y Bencampwriaeth y tymor hwn a’u hwythfed oddi cartref.

Ychydig o gyfleoedd a gafwyd trwy gydol y gêm a ddaeth dim un o’r rheiny mewn hanner cyntaf diflas.

Roedd pethau ychydig bach yn well wedi’r egwyl yn enwedig yn y munudau cyntaf. Bu rhaid i David Marshall fod ar flaenau ei draed wedi dim ond munud o’r ail hanner i arbed ergyd El-Hadji Diouf yn dilyn rhediad da i’r cwrt cosbi gan yr ymosodwr. A cheisiodd Aron Gunnarsson ei lwc o bellter yn y pen arall funud yn ddiweddarach ond arbedodd David Button yn gyfforddus.

Peniodd James O’Connor dros y trawst i Doncaster a gwnaeth Marshall yn dda i atal Billy Sharp yn y cwrt cosbi. Ergydiodd Peter Wittingham o bellter wedi 74 munud ond doedd dim yn tycio i chwaraewyr Caerdydd wrth i Button arbed yn gyfforddus.

Mae Caerdydd yn aros yn y trydydd safle yn y tabl o ganlyniad i’r gêm gyfartal ond yn colli tir ar Southampton a West Ham yn y ddau safle uchaf ar ôl i’r ddau dîm ennill heddiw. Ond y newyddion da i’r Adar Gleision yw bod Middlesbrough sydd yn y pedwerydd safle wedi colli heddiw. Ac mae gwaith caled yn wynebu Saunders o hyd wrth i Doncaster aros yn safleoedd y gwymp er gwaethaf y pwynt hwn.