Warburton - Sgoriwr unig gais y gêm
Gwyddelod Llundain 15–22 Gleision
Mae gobeithion y Gleision o gyrraedd chwarteri Cwpan Heineken yn fyw ac yn iach yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Gwyddelod Llundain yn Stadiwm Madejski heddiw. Roedd cais Sam Warburton yn gynnar yn yr ail hanner ynghyd â chicio cywir Leigh Halfpenny yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r Gleision yn Reading.
Cyfnewid Ciciau
Rhoddodd Halfpenny y Gleision ar y blaen wedi saith munud gyda mynydd o gic gosb o’i hanner ei hun. Ond tarodd y Gwyddelod yn ôl yn syth gyda thri phwynt dipyn symlach o droed eu maswr, Adrian Jarvis, wedi i Chris Czekaj gael ei ddal yn camsefyll.
Daeth Halfpenny yn agos gyda chynnig arall at y pyst hanner ffordd trwy’r hanner ond parhau yn gyfartal a wnaeth hi tan bedwar munud cyn yr egwyl. Llwyddodd Jarvis gyda dwy gic gosb o fewn tri munud i’w gilydd i roi’r tîm cartref ar y blaen cyn i Halfpenny gau’r bwlch i dri phwynt gyda gweithred olaf yr hanner, 9-6 i’r Gwyddelod ar yr egwyl.
Cais Warburton
Roedd y Gleision ar y blaen wedi dim ond dau funud o’r ail hanner diolch i unig gais y gêm gan Warburton. Bylchodd Casey Laulala yn wych ar yr asgell chwith cyn dadlwytho i Warburton a gwnaeth yntau’r gweddill. Llwyddodd Halfpenny gyda’r trosiad i roi’r Gleision ar y blaen o 13-9.
Caeodd y Gwyddelod y bwlch i un pwynt wedi 53 munud wrth i Delon Armitage ddangos nad Halfpenny oedd yr unig gefnwr ar y cae sydd yn gallu trosi ciciau cosb o’r llinell hanner.
Llwyddodd Jarvis a Halfpenny gyda chic gosb yr un o fewn munud i’w gilydd toc wedi’r awr wrth iddi barhau yn agos, 16-15 i’r tîm o Gymru gydag ychydig dros chwarter awr ar ôl. Ond ymestynnodd Halfpenny fantais y Gleision i bedwar pwynt yn fuan wedyn gyda chic gosb arall yn dilyn trosedd gan flaenasgellwr y Gwyddelod, David Sisi, yn ardal y dacl.
Bu rhaid i’r Gleision amddiffyn yn gadarn yn y munudau olaf wrth i’r Gwyddelod bwyso ond sicrhaodd Halfpenny y fuddugoliaeth gyda chic gosb arall ddau funud o’r diwedd gan goroni perfformiad da ganddo ef a’r Gleision.
Codi i’r Brig
Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision i frig grŵp 2 yn gyfartal ar bwyntiau gyda Chaeredin gydag un gêm ar ôl. Gallai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn serch hynny oni bai am gôl adlam Phil Godman i ennill y gêm i Gaeredin yn yr eiliad olaf yn erbyn Racin Metro neithiwr.
Caiff y cyfan ei setlo’r penwythnos nesaf felly pan fydd y Gleision yn croesawu Racin Metro i Gaerdydd a Chaeredin yn herio’r Gwyddelod yn Murrayfield.