Priestland - Chwaraewr gorau'r hanner cyntaf
Scarlets 17–29 Northampton
Mae’r Scarlets allan o’r Cwpan Heineken ar ôl colli yn erbyn Northampton ym Mharc y Scarlets heddiw er gwaethaf y ffaith iddynt fod wyth pwynt ar y blaen ar yr egwyl. Rhoddodd cais Viliame Iongi a chicio cywir Rhys Priestland fantais iach i’r rhanbarth o Gymru ond brwydrodd y Saeson yn ôl yn yr ail hanner i gipio’r fuddugoliaeth ac esgyn uwch ben y Scarlets yng ngrŵp 1.
Priestland yn Rheoli
Hon oedd gêm gyntaf Alain Rolland yng Nghymru ers Cwpan y Byd a llwyddodd y dyfarnwr i dynnu sylw ato’i hun wedi dim ond dau funud o chwarae trwy anfon canolwr yr ymwelwyr, Tom May, i’r gell gosb am daflu’r bêl at Gareth Davies.
A manteisiodd y Scarlets trwy sgorio chwe phwynt o droed Priestland tra’r oedd May oddi ar y cae. Troseddodd Northampton yn ardal y dacl wedi naw munud ac yna eto dri munud yn ddiweddarach a throsodd maswr y Scarlets y gic gosb ar y ddau achlysur.
Sgoriodd Stephen Mayler bwyntiau cyntaf y Seintiau gyda chic gosb wedi 18 munud cyn i Priestland adfer chwe phwynt o fantais y Scarlets gyda’i drydedd gic lwyddiannus ddau funud yn ddiweddarach.
Cic gan Priestland oedd yn gyfrifol am gais cyntaf y gêm wedi 33 munud hefyd. Daeth o hyd i Iongi ar yr asgell gyda chic letraws a oedd wedi’i mesur yn berffaith. Tasg hawdd oedd sgorio’r cais i’r asgellwr wedi hynny ac er i Priestland fethu’r trosiad roedd y Scarlets ar y blaen o 14-3.
Fe wnaeth Mayler drosi cic gosb arall i gau’r bwlch i wyth pwynt ar yr egwyl ond roedd y tîm cartref yn ddigon hapus gyda’r sgôr ar hanner amser.
Northampton yn Taro’n Ôl
Roedd Northampton yn well tîm wedi’r egwyl ac er i’r dyfarnwr teledu achub y Scarlets trwy wrthod cais i’r ymwelwyr wedi 44 munud doedd dim rhaid i’r Seintiau aros yn hir. Plymiodd y prop, Soane Tonga’uiha, dros y gwyngalch i sgorio cais cyntaf ei dîm cyn i Mayler ychwanegu’r trosiad i gau’r bwlch i un pwynt.
Ac roedd Northampton ar y blaen wedi awr o chwarae yn dilyn cyfuniad o ddiffyg disgyblaeth gan y Scarlets a chicio cywir Mayler at y pyst. Ciciodd y maswr dair cic gosb mewn cyfnod o saith munud, wedi, 50, 54 a 57 munud. Ac er i Priestland lwyddo gydag un i’r Scarlets hefyd roedd Northampton bellach ar y blaen o 22-17.
Doedd pwynt bonws ddim yn hanner digon i’r Scarlets felly fe frwydrodd y tîm cartref yn ddewr i chwilio am y cais yn y munudau olaf ond torwyd eu calonnau pan ryng-gipiodd cefnwr Northampton, Ben Foden, bas ar ei linell gais ei hun cyn rhedeg hyd y cae i sgorio yn y pen arall. Llwyddodd yr eilydd o faswr, Ryan Lamb, gyda’r trosiad wrth iddi orffen yn 29-17 o blaid y Saeson.
Y Scarlets allan o’r Cwpan Heineken felly a go brin y byddant yn cystadlu yn y Cwpan Amlin chwaith gan eu bod bellach yn gorwedd yn y trydydd safle yng ngrŵp 1, bwynt y tu ôl i Northampton.