Gweilch 44–17 Treviso
Cadwodd y Gweilch eu gobeithion yn fyw yn y Cwpan Heineken gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Treviso yn Stadiwm Liberty heno. Mae tynged y rhanbarth o Gymru yn parhau yn nwylo timau eraill ond gwnaeth y Gweilch bopeth o fewn eu gallu heno wrth sgorio chwe chais yn erbyn yr Eidalwyr yng ngrŵp 5.
Ceisiau Cynnar
Sgoriodd Tommy Bowe y cais cyntaf yn ail funud y gêm. Rhyng-gipiodd y bêl yn ddwfn yn ei hanner ei hun cyn rhedeg 70 medr am gais agoriadol hawdd. Llwyddodd Dan Biggar gyda’r trosiad cyn i faswr Treviso, Chris Burton, daro’n ôl gyda chic gosb. Yna, ychwanegodd Biggar gic gosb i roi mantais o saith pwynt i’r tîm cartref wedi deg munud o chwarae.
Ond roedd yr Eidalwyr yn gyfartal ddau funud yn ddiweddarach diolch i gais y mewnwr, Edoardo Gori, a throsiad Burton. Collodd y Gweilch y bêl yn ardal y dacl ddeg medr yn unig o linell gais Treviso ond rhedodd Gori hyd y cae heb ei gyffwrdd cyn croesi llinell gais y Gweilch a gori ar yr wy. 10-10 yn dilyn trosiad gwych Burton o’r ystlys.
Adferodd Biggar fantais y Gweilch gyda chic gosb wedi 17 munud ond roedd hi’n agos o hyd, 13-10 i’r tîm cartref.
Dau Gais i Beck
Ond sicrhaodd Ashley Beck fantais gyfforddus i’r Gweilch erbyn yr egwyl gyda dau gais. Daeth y cyntaf o’r rheiny hanner ffordd trwy’r hanner. Bylchodd y mewnwr, Rhys Webb, yn dda ac ailgylchwyd y bêl yn gyflym i roi cais hawdd ar blât i Beck.
Yna, ychwanegodd y canolwr ei ail toc wedi hanner awr o chwarae wedi i’r Gweilch ddwyn pêl Treviso mewn lein amddiffynnol yn eu hardal 22 medr.
Methodd Biggar gyda’r trosiad cyntaf cyn llwyddo â’r ail i roi mantais o 25-10 i’r rhanbarth o Gymru ar hanner amser.
Ail Hanner
Dechreuodd y Gweilch yr ail hanner fel yr hanner cyntaf yn addawol iawn gan orfodi cais cosb wedi 46 munud. Dymchwelodd Treviso sgrym y Gweilch ar y llinell bum medr a rhedodd John Paul Doyle o dan y pyst i ddynodi cais a phwynt bonws i’r tîm cartref. Trosodd Biggar y ddau bwynt ychwanegol, 32-10 i’r Gweilch gyda dros hanner awr ar ôl.
Ond yn ôl y daeth Treviso unwaith eto gyda chais i’r clo, Gonzalo Padro, wedi 51 munud. Ceisiodd pedwar neu bump o amddiffynnwyr y Gweilch atal Padro ar y llinell ond hyrddiodd dros y llinell serch hynny. Llwyddodd yr eilydd o faswr, Tobias Botes, gyda’r trosiad ond dyna oedd diwedd y sgorio o safbwynt Treviso.
Dau Gais Hwyr
Ond doedd y Gweilch heb orffen ac ychwanegwyd dau gais arall cyn y diwedd. Sgoriodd yr eilydd o faswr, Kahn Fotuali’i, gyda deuddeg munud yn weddill. Bylchodd eilydd arall, Matthew Morgan, yn rhwydd cyn pasio i Fotuali’i a chroesodd yntau’r gwyngalch.
Roedd sgrym yr ymwelwyr o dan bwysau eto erbyn diwedd y gêm a dyfarnwyd ail gais cosb i’r Gweilch ddau funud cyn y diwedd i droi’r grasfa yn chwalfa, 44-17 y sgôr terfynol yn dilyn trosiad llwyddiannus Morgan.
Seren y gêm i’r Gweilch oedd Ashley Beck ac roedd yn ddyn hapus iawn ar ddiwedd y gêm:
“Mi wnes i fwynhau, fe chwaraeodd y tîm i gyd yn dda ac roedd hi’n gêm dda. Sicrhau pum pwynt oedd y bwriad a dyna gawsom ni.”
Mae’r pum pwynt hwnnw yn codi’r Gweilch i’r ail safle yng ngrŵp 5 am y tro ond gallant ddisgyn yn ôl i’r trydydd safle ar ôl y gêm rhwng Saracens a Biarritz yfory.