Penwythnos arall, a gornest Ewropeaidd arall i gwestiynnu gallu tîm ifanc y Scarlets. Heb os mae’r garfan wedi tyfu yn ystod y tymor, ac fe brofodd y gemau dros y Nadolig fod gan y Scarlets garfan gystadleuol sy’n medru ennill, heb iddynt berfformio yn neilltuol o dda.
Bydd Nigel Davies a’i dîm rheoli yn gobeithio mai ennill fydd yr hanes eto yfory yma ym Mharc y Scarlets wrth i Northampton deithio i Orllewin Cymru. Rhaid nodi fod y gwrthwynebwyr penwythnos yma yn dîm llawer cryfach na’r un a gafodd eu trechi yng Ngerddi Franklins ar ail benwythnos y gystadleuaeth. Fe drechodd y Seintiau dîm disglair Harlequins nos Wener ddiwethaf, clwb sydd wedi eistedd ar frig Cynghrair Lloegr ers mis Medi. Gyda Ben Foden yn bresennol fel cefnwr, fe fydd rhaid i strategaeth cicio’r cochion fod mor gywrain ag yr oedd ar y noson wefreiddiol honno yng nghanolbarth Lloegr ym mis Tachwedd. Fe arweiniodd Rhys Priestland a’i droed ddestlus y Scarlets at y fuddugoliaeth o 28 i 23, canlyniad a ddaeth yn sioc i nifer. Ond ni fydd hi mor annisgwyl pe bai’r Scarlets yn mwynhau’r un fath o fuddugoliaeth gartre’n erbyn Northampton..
Wedi trechu’r Gweilch, y Dreigiau a Glasgow, a hynny heb hyd yn oed chwarae i’w potensial llawn, fe fydd y Scarlets yn teimlo’n hyderus wrth gamu i’r cae. Fe fydd torf enfawr arall yno I chwyddo’r coffrau.
Fe fydd colli Rhys Thomas yn ergyd drom, yn enwedig wrth ystyried grym blaenwyr y gwrthwynebwyr a fydd yn cael eu harwain gan y bachwr rhyngwladol Dylan Hartley. Serch hynny, mae’r rheng ôl yn edrych yn addawol. Braf fydd medru trafod perfformiad y Sais Ben Morgan ar y cae, yn hytrach na gwrando ar yr holl helynt sydd wedi dilyn yr wythwr addawol oddi ar y cae yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Ni fydd Sean Lamont ymysg yr olwyr. Bydd asgellwr rhyngwladol arall, y gŵr o Tonga, Iongi, yn cael ei gyfle. Gyda’r dibynadwy Liam Williams yn dychwelyd yn gefnwr, mae yna botensial aruthrol i ymosod o unrhyw le. Mae’r fainc yn addawol hefyd gyda chymysgedd o brofiad ac egni rhai ifanc fel Josh Turnbull a fydd yn awchu am gyfle i brofi ei allu yn dilyn anaf a rwystrodd y blaenasgellwr rhag chwarae tan ddiwedd mis Rhagfyr.
Yn y canol bydd Alain Rolland, un o ddyfarnwyr gorau’r byd. Mae’n gyson a chadarn, ac rwy’n sicr y bydd ef yn gosod ei farc ar yr ornest!
Mwynhewch y gêm!