Bala
– Lido Afan

Bydd y Bala yn gobeithio’i gwneud hi’n dair buddugoliaeth mewn tair gêm wrth groesawu Lido Afan i Faes Tegid o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn. Mae’r gêm wedi cael ei gohirio ddwywaith yn barod wedi i’r cae fod o dan ddŵr, unwaith yng nghanol Rhagfyr ac yna eto ddydd Sadwrn diwethaf.

Byddai buddugoliaeth brynhawn Sadwrn yn dilyn dwy fuddugoliaeth yn erbyn Airbus dros gyfnod y Nadolig ac yn rhoi diweddglo da i ran gyntaf y tymor i’r Bala. Dechreuodd tîm Colin Caton yn wych ac roeddynt ar frig y gynghrair am ychydig ar ddechrau’r tymor. Ond collodd y Bala eu ffordd am gyfnod gan ddisgyn i’r pumed safle ond byddai buddugoliaeth yn erbyn Lido Afan yn rhoi hwb iddynt cyn i ail ran y tymor ddechrau ym mis Chwefror.

Nid yw ildio goliau wedi bod yn broblem i’r Bala, does neb wedi cadw mwy o lechi glân yn y cefn na thîm Maes Tegid y tymor hwn. Ond mae sgorio yn y pen arall wedi bod yn anoddach iddynt a does yr un tîm yn y chwech uchaf wedi sgorio llai.

Dyna pam y mae Colin Caton wedi bod yn weithgar yn barod yn y ffenestr drosglwyddo. Mae wedi arwyddo’r blaenwr, Ian Sheridan, o Airbus. Sgoriodd Sheridan ddeg gôl i Airbus yn hanner cyntaf y tymor a bydd yn awyddus i ychwanegu at ei gyfanswm gyda’i glwb newydd brynhawn Sadwrn.

Mae un chwaraewr wedi gadael Maes Tegid hefyd. Mae Liam Loughlin wedi dychwelyd i Gap Cei Conna ar ôl ei chael hi’n anodd sicrhau ei le yn nhîm y Bala.

Mae gan Colin Caton ychydig o broblemau gydag anafiadau cyn y gêm. Bu rhaid i Mark Connolly a Stephen Brown ddod oddi ar y cae yng ngêm ddiwethaf y tîm yn erbyn Airbus, y naill gydag anaf i’w asennau a’r llall gydag anaf i’w ffêr. Go brin y bydd Connolly yn barod i ddychwelyd ddydd Sadwrn a fydd Brown yn sicr ddim ar gael am fis arall.

Connolly a sgoriodd yr unig gôl yn y gêm gyfatebol yn Stadiwm Marstons ym mis Hydref ond bydd y Bala yn ffyddiog o sicrhau’r tri phwynt hebddo yn y gêm gartref brynhawn Sadwrn.

Bydd y Bala yn aros yn y pumed safle yn y tabl beth bynnag y canlyniad yfory ond gallant gau’r bwlch ar Gastell Nedd yn y pedwerydd safle i bedwar pwynt gyda buddugoliaeth.

Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf am 15:15.