Bala – Lido Afan
Bydd Lido Afan yn gobeithio gorffen rhan gyntaf y tymor mewn steil gyda buddugoliaeth yn erbyn y Bala ar Faes Tegid o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn. Mae’r gêm wedi cael ei gohirio ddwywaith yn barod wedi i’r cae fod o dan ddŵr, unwaith yng nghanol Rhagfyr ac yna eto ddydd Sadwrn diwethaf.
A bydd Andy Dyer yn mawr obeithio y caiff y gêm ei chwarae y tro hwn gan fod ei dîm ar rediad mor dda. Yn dilyn dechrau araf i’r tymor, mae’r newydd-ddyfodiaid wedi deffro yn y chwe gêm ddiwethaf gan ennill tair a cholli un yn unig. Yn wir, y tîm o Bort Talbot sydd â’r record orau o’r holl dimau yn hanner isaf y tabl dros y chwe gêm ddiwethaf.
Mae llawer o’r diolch am hynny yn ddyledus i’r prif sgoriwr, Jonathan Hood, sydd wedi sgorio saith gôl ers dechrau’r tymor gan gynnwys pedair yn y chwe gêm ddiwethaf. Ond bydd rhaid i Lido wneud heb ei goliau ef yn y Bala ddydd Sadwrn ac am weddill y tymor hefyd wedi i’r ymosodwr symud i Gaerfyrddin yn ystod yr wythnos.
Bydd colli Hood yn dipyn o ergyd i Lido gan eu bod wedi ei chael hi’n anodd dod o hyd i gefn y rhwyd yn eu tymor cyntaf yn ôl yn yr Uwch Gynghrair. Dim ond Caerfyrddin sydd wedi sgorio llai na hwy yn y gynghrair ac ar wahân i Hood, dim ond Mark Jones sydd wedi sgorio mwy na thair gôl y tymor hwn.
Ond nid yw Dyer wedi gwastraffu dim amser yn dod ag ymosodwr arall i’r clwb i geisio llenwi’r bwlch wrth i Chad Bond ymuno ar fenthyg o Lanelli tan ddiwedd y tymor. Ychydig o gyfleoedd y mae’r cyn chwaraewr Abertawe wedi eu cael ar Stebonheath y tymor hwn a bydd yn gobeithio dechrau’r gêm ar Faes Tegid brynhawn Sadwrn.
Ac efallai nad Bond fydd yr unig wyneb newydd yn nhîm Lido’r penwythnos hwn gan fod Dyer wedi bod yn brysur yn cryfhau’r garfan drwyddi draw. Mae’r chwaraewr canol cae, Anthony Finselbach, wedi ymuno o Aberystwyth a Liam Thomas wedi symud i Stadiwm Marstons o Gastell Nedd.
Bydd dau asgellwr newydd ar gael i Dyer hefyd. Mae Alex Rickett wedi arwyddo i’r clwb yn dilyn cyfnod yn chwarae i’r Windsor Stars yng Nghanada ac yn ymuno hefyd y mae cyn chwaraewr Birmingham, Shane Williams.
Bydd Dyer yn edrych ymlaen at weld ambell chwaraewr newydd felly ond un peth fydd yn ei boeni fydd record amddiffynnol ddiweddar ei dîm. Mae Lido wedi ildio dwy gôl ym mhob un o’u tair gêm ddiwethaf a byddant yn ceisio dod â’r rhediad anffodus hwnnw i ben yn y Bala ddydd Sadwrn heb eu hamddiffynnwr profiadol a dylanwadol, Liam Hancock. Mae ef wedi ei wahardd am bedair gêm ar ôl derbyn ei ail gerdyn coch o’r tymor yn erbyn Port Talbot yn eu gêm ddiwethaf.
Gan mai gêm wrth gefn yw hon does dim perygl o neb esgyn uwch ben Lido yn yr wythfed safle tan i ail hanner y tymor ddechrau ym mis Chwefror ond byddai buddugoliaeth swmpus yn eu codi dros Airbus i’r seithfed safle.
Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf am 15:15.