Chris Coleman
Er gwaethaf stori yn y Daily Mail ddoe yn dweud mai Chris Coleman fydd rheolwr nesaf Cymru, mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi dweud wrth Golwg360 nad ydyn nhw wedi penderfynu pwy fydd yn olynu Gary Speed yn brif hyfforddwr pêl-droed Cymru.
Ennillodd Chris Coleman 32 o gapiau dros Gymru cyn symud ymlaen i hyfforddi tîm pel-droed Fulham.
Ers hynny bu’n hyfforddwr Real Sociedad a Coventry.
Ym mis Mai 2010 fe gafodd ei ddiswyddo oherwydd rhediad gwael o ganlyniadau yn Coventry.
Yr wythnos hon roedd Coleman yn ymddiswyddo o’i swydd yn reolwr ar glwb Larissa, tîm sydd yn ail gynghrair Gwlad Groeg.
Mae’r ffaith ei fod wedi gadael ei swydd wedi golygu bod dyfalu mai’r Cymro 41 oed fydd rheolwr newydd Cymru.