Brendan Rodgers
Mae rheolwr Abertawe Brendan Rodgers yn credu bod cefnogwyr y Swans ac Arsenal yn mynd i gael gwerth eu harian pan fydd y ddau glwb yn herio’i gilydd yn Stadiwm y Liberty am bedwar brynhawn dydd Sul.

Dyma fydd gêm gartref gynta’r Elyrch eleni. Maen nhw eisoes wedi curo Aston Villa a Barnsley oddi cartref yn 2012.

Ond mae Arsenal ar rediad clodwiw, wedi colli ond dwy o’u 13 gêm ddiwethaf.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y her ac mae’n mynd i fod yn gêm wych,” meddai Brendan Rodgers. 

“Rydym yn ymwybodol o’r dasg o’n blaenau.  Mae gan Arsenal garfan o chwaraewyr gwych ac mae Robin Van Persie yn un o’r ymosodwyr gorau yn y byd.”

Fis Medi fe gollodd yr Elyrch 1-0 oddi cartref i Arsenal.

“Rwy’n gwybod ein bod wedi datblygu fel tîm ers y tro diwethaf i ni chwarae Arsenal, ac rydym yn gwella gydag amser,” meddai Brendan Rodgers.

Mae’r Elyrch ar rediad gwych yn yr Uwch Gynghrair, wedi colli un yn unig o’u chew gêm olaf. 

“Rydw i wastad wedi credu yn y tîm yma,” meddai Brendan Rodgers. 

“Rydym ni wedi synnu llawer o bobl.  Gan fod ein gêm yn cael ei dangos i’r genedl ac i gynulleidfa fyd-eang, rydym wedi dal sylw pobl ac mae ein hathroniaeth wedi sylw.”

Gyda’r cyfnod trosglwyddo chwaraewyr yn prysuro, mae nifer wedi eu cysylltu gydag Abertawe yn yr wythnosau diwethaf.

Ar ôl i Abertawe arrwyddo Rory Donnelly and Gylfi Sigurdsson yn y pythefnos ddiwethaf, mae Rodgers yn dweud ei fod wrth ei fodd gyda’r ffordd y mae’r ddau wedi ymgartrefu.

“Mae’r chwaraewyr wedi bod yn wych yn y chwe mis cyntaf o’r tymor, ond roedd yn bwysig i gryfhau mewn ambell fan hefyd,” meddai.

Yn y cyfamser mae’r hyfforddwr wedi cadarnhau bod y clwb ar fin cwblhau cytundeb i fenthyg chwaraewr canol cae Chelsea, Josh McEachran.