Scott Johnson
DARN BARN
gan Huw Wilcox, cefnogwr y Gweilch

Gyda’r newyddion bellach ar led fod Scott Johnson am ymuno â thîm rheoli’r Alban, mae angen gofyn y cwestiwn: ‘Beth y mae ef wedi ei gyflawni gyda’r Gweilch?’

Wel, dim lot yn fy marn i.

Ers i Johnson ymuno ym mis Ionawr 2009, yr unig dlws sydd wedi cyrraedd Stadiwm y Liberty yw tlws Cynghrair Magners 2010. Gellir dadlau bod hyn yn gamp gwerth chweil, ond wrth ystyried safon y chwaraewyr yn ei garfan a’i lwyddiannau personol gyda’r Waratahs yn Awstralia, maddeuwch i mi am ddisgwyl ychydig bach mwy.

Galla i fyth â beio Johnson yn llwyr. Y chwaraewyr sydd ar y cae, a nhw sydd angen perfformio i sicrhau buddugoliaeth. Serch hynny, mae cyfrifoldeb ar Johnson a’i dîm i sicrhau bod y pymtheg chwaraewr gorau ar y cae, (gan obeithio bod y rhan helaeth ohonynt yn Gymry). Mae’n anodd cadw’r cydbwysedd rhwng profiad rhyngwladol a meithrin talent ifanc. Yn anffodus mae’r glorian wedi bod yn gwyro tua’r mewnfudwyr rhyngwladol ers sawl tymor bellach. Ac ma’ rhaid cyfaddef, roedd y tô ifanc o chwaraewyr ar ddechrau’r tymor yn chwarae gan gwaith gwell nag yw’r Gweilch ar hyn o bryd. Oes yna wers i’w ddysgu yma? 

Pam bod George Stowers wedi ymuno yn yr haf, gyda Joe Bearman, Ryan Jones, Tom Smith a Jonathan Thomas i gyd yn Gymry ac i gyd yn gallu chwarae fel wythwr? Sut lwyddoch chi i wastraffu chwaraewr mor dalentog a Gareth Owen?  Pam nad yw Rhys Webb ar y cae bob wythnos? Os nad yw Johnson am i Dan Biggar fynd yn angof i Warren Gatland, pam bod Matthew Morgan yn dechrau fel maswr? Dyma rai o’r cwestiynau yr hoffwn i ofyn i Mr Johnson cyn iddo ffarwelio â’r Liberty.

Colli cyfle?

Roedd y Gweilch ar drothwy bod yn un o fawrion Ewrop. Wedi maeddu Teigrod Carlŷr yn hawdd yn Twikenham yn 2008 ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at dymor llewyrchus, a gyda Scott Johnson o bawb yn ymuno yn ystod y tymor, roedd disgwyl  byddai’r Gweilch yn rhedeg reiat drwy Ewrop. Tair mlynedd yn ddiweddarach ac maen nhw’n dal i dangyflawni, ac yn diolch i grwtyn deunaw oed am gic ryfeddol yn yr Eidal er mwyn osgoi embaras llwyr.

Mae parhau mewn unrhyw gystadleuaeth yn Ewrop bellach yn nwylo’r mathemategwyr. Naill ai y Saraseniaid neu Biarriz fydd yn sicrhau eu lle yng Nghwpan Heineken, a fwy na thebyg mai un o’r rhain fydd yn cwympo i’r Cwpan Amlin yn ogystal. Diolch byth am y dechre da yn y Pro 12 neu byddai’r Gweilch yn  edrych ymlaen at y tymor nesaf yn barod.

Unwaith yn unig maen nhw wedi ennill mewn pum gêm, ac mae angen rhoi crasfa i Treviso heno i roi’r flwyddyn newydd yn ôl ar ben ffordd.

Hoffwn weld Scott Johnson yn mynd i’r Alban cyn gynted â phosib. Dyna lle mae ei ddyfodol a phob hwyl iddo gyda hynny. Gadewch i Shaun Holley a John Humphreys roi eu stamp nhw ar gêm y Gweilch. Os nad yw’r sefyllfa’n gwella erbyn diwedd y tymor, penodwch rhywun o’r newydd yn yr haf. Gall y sefyllfa yma ddim parhau. Mae’r talent ar bapur gyda’r Gweilch i fod yn un o fawrion Ewrop ers tro byd. Ac os na all rheolwr droi carfan o sêr rhyngwladol yn lwyddiant, mae e’n y job ‘rong.

Pob hwyl i ti yn yr Alban Scott. Gobeithio wnei di cystal yn fanno ag y gwnest ti fan hyn!