Raymond Verheijen
Mae’r dyn oedd yn ddirprwy i Gary Speed wedi annog Cymdeithas Bêl-droed Cymru i beidio â chrwydro’n rhy bell o’r cynllun roedd y rheolwr diweddar wedi ei osod ar gyfer cyrraedd Cwpan y Byd 2014.
Mae Raymond Verheijen eisoes wedi datgan ei ddymuniad i olynu Gary Speed yn reolwr Cymru.
Yn ôl Verheijen mi fyddai FA Cymru yn “troi eu cefnau” ar Speed petaen nhw’n cyflogi tîm rheoli cwbwl newydd.
“Os ydach chi’n cyflogi rheolwr newydd fe fydd pethau’n newid,” meddai wrth BBC Sport.
“Nid ydym yn chwilio am reolwr newydd gyda syniadau newydd a phobol newydd.
“Os ydy’r Gymdeithas Bêl-droed yn penderfynu gwneud hynny maen nhw fwy neu lai yn troi eu cefnau ar Gary Speed ac yn mynd i gyfeiriad hollol wahanol.
“Ac rydw i’n meddwl y byddai hynny yn amharchus ac ansesnitif iawn.”
Tra bod capten Cymru Aaron Ramsey a Gareth Bale wedi dweud eu bod nhw eisiau i Verheijen ac Osian Roberts barhau’n rhan o’r staff rheoli, roedd adroddiad yn y wasg ddoe fod Chris Coleman wedi cael cynnig bod yn reolwr Cymru.