Chris Coleman
Mae John Hartson wedi taflu ei bwysau tu ôl i Chris Coleman sy’n ymddangos yn ffefryn i olynu Gary Speed fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru.

Dywedodd cyn-beldroediwr Cymru: “Mi fydd yn cael fy nghefnogaeth lawn…fel fyddai unrhyw berson yn ei gael wrth iddyn nhw hyfforddi tîm fy ngwlad,” meddai.

Mae Hartson hefyd wedi dweud ei fod yn cefnogi safiad Aaron Ramsey sydd wedi mynegi ei siom ynglŷn â phenderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i beidio a ystyried ei gynnwys yn y trafodaethau i ddewis hyfforddwr newydd Cymru.

“Yn amlwg, o dan yr amgylchiadau, byddwn wedi meddwl y bydden nhw (Cymdeithas Bêl-droed Cymru) wedi cysylltu â mi yn uniongyrchol ac efallai rhai o’r chwaraewyr eraill i ofyn am ein barn,” meddai Ramsey ar Twitter.

Dywedodd  John Hartson bod ymateb Ramsey “yn dangos ei aeddfedrwydd.  Mae’n dangos ei fod  wirioneddol yn poeni am ddyfodol Cymru ac mae’n amlwg y byddai wedi hoffi rhoi barn am y sefyllfa,” meddai.

“Os mai Coleman neu unrhyw un fydd yn derbyn y swydd, bydd rhaid newid y cynorthwywyr yn nhîm Cymru.  Yn enwedig Raymond Verheijen, gan ei fod wedi dweud ei fod am geisio cael ei ystyried am y swydd.  Ni all unrhyw rheolwr newydd fynd ati i weithio’n effeithiol gan wybod bod un o’i dîm cynorthwyol am ei swydd,” dywedodd Hartson.

Ar y llaw arall dywedodd Ramsey ei fod am weld cyn lleied o newidiadau ag sy’n bosibl.

“Rydym am gael cyn lleied o newidiadau ag sy’n bosibl, rydym wedi cael canlyniadau gwych fel tîm yn y gemau diweddaraf, ac yn dîm sy’n chwarae yn llawn hyder,” ychwanegodd.