Mae George Stowers o’r Gweilch wedi’i wahardd am dair wythnos yn dilyn trosedd yn y gêm yn erbyn y Dreigiau nos Wener ddiwethaf.

Roedd Stowers a’i gyd chwaraewr, Jonathan Thomas, wedi’u henwi yn dilyn y ddarbi Gymreig, ac roedd eu hachos yn cael ei drafod gan bwyllgor yn Nulyn heddiw.

Penderfynwyd bod tacl Stowers yn erbyn Tanderai Chavhanga yn un beryglus yn unol â chyfraith 10.4(e).

Mae trosedd o’r fath fel rheol yn derbyn pythefnos o waharddiad, ond penderfynwyd ymestyn ei gosb am wythnos ychwanegol oherwydd ei record disgyblaeth wael dros y 36 mis diwethaf.

Penderfynodd y pwyllgor nad oedd tacl gan Jonathan Thomas ar ddiwedd yr un gêm yn haeddu unrhyw gosb.