Mae anaf i wddf bachwr Cymru, Lloyd Burns yn golygu ei fod yn debygol o fethu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gyfan gwbl.

Yn ôl ei ranbarth, y Dreigiau, mae Burns yn debygol o fethu a chwarae am o leiaf dri mis.

“Mae Lloyd wedi’i gynghori i beidio chwarae rygbi am o leiaf tri mis er mwyn gallu gwella o’r anaf i’w wddf” meddai Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, Robert Beale.

“Yn amlwg rydym yn siomedig dros Lloyd, yn enwedig gyda’r Chwe gwlad ar y gorwel, ond mae diogelwch a lles Lloyd sydd bwysicaf.”

Bydd y newyddion yn ergyd i gynlluniau hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wrth iddo baratoi ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Burns oedd ail ddewis Cymru yn safle’r bachwr yn ystod Cwpan y Byd, gyda Huw Bennett yn ddewis cyntaf.

Er hynny, mae capten y Scarlets, Matthew Rees a Richard Hibbard o’r Gweilch bellach yn holliach ar ôl methu Cwpan y Byd oherwydd anafiadau.