Gareth Thomas
Mae pêl-droediwr wedi cael y sac gan ei glwb pêl-droed ar ôl iddo wneud sylw homoffobig am y cyn-chwaraewr rygbi Gareth Thomas ar Twitter.

Roedd Lee Steele, oedd yn chwarae i glwb pêl-droed Rhydychen, wedi gwneud sylwadau am Gareth Thomas, sy’n hoyw, ynglŷn â’i ymddangosiad yn y gyfres Celebrity Big Brother.

Mewn datganiad ar wefan y clwb, dywedodd y bwrdd bod sylwadau Lee Steele, 38, “wedi mynd yn gwbl groes i ethos y clwb”.

Mae’n debyg nad yw Lee Steele wedi gwneud sylw am y mater hyd yn hyn.