Henry yn lliwiau Barcelona
Mae un o bêl-droedwyr gorau’r byd, Thierry Henry wedi bod yn canmol arddull chwarae Abertawe heddiw.
Mae Henry newydd ailymuno a’i gyn-glwb, Arsenal ar gytundeb byrdymor, a bydd yn teithio gyda hwy i herio Abertawe ar Stadiwm Liberty ddydd Sul.
Wrth siarad â gwefan swyddogol y clwb, arsenal.com mae Henry wedi labelu Abertawe fel “tîm rhyfeddol” gan ganmol eu pêl-droed atyniadol.
“Mae Abertawe yn dîm rhyfeddol” meddai Henry.
“Maen nhw wedi creu argraff fawr arna’i, maent yn chwarae pêl-droed y ffordd iawn ac maen nhw’n beryglus.”
“Maent yn chwarae gyda dau asgellwr ac rydym yn gwybod ei bod yn mynd i fod yn gêm anodd i ni.”
Henry oedd arwr Arsenal nos Lun wrth iddo ddod o’r fainc i sgorio’r gôl fuddugol yn erbyn Leeds.
Mae ei glod yn adlewyrchu sylwadau nifer o wybodusion y gêm sydd wedi bod yn canmol arddull chwarae atyniadol Abertawe y tymor hwn.
Does dim sicrwydd os bydd Henry’n dechrau’r gêm yn erbyn Abertawe eto, ond mae disgwyl i’w prif sgoriwr Robin Van Persie ddychwelyd i’r tîm ar ôl methu’r gêm yn erbyn Leeds.
Er hynny, mae rheolwr Arsenal, Arsene Wenger, wedi awgrymu y gallai’r ddau ymosodwr ffurfio partneriaeth yn rhwydd iawn.