Fe fydd gêm ailchwarae Wrecsam yng Nghwpan yr FA yn erbyn Brighton and Hove Albion yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C.

Cyhoeddwyd y newyddion ar wefan y clwb, wrexhamafc.co.uk, y prynhawn yma.

Mae’r gêm i’w chwarae ar y Cae Ras nos Fawrth nesaf, 17 Ionawr gyda’r gic gyntaf am 19.45.

Roedd si ar led neithiwr bod y gêm am gael ei darlledu ar sianel ITV4, ond daeth y newyddion ynghynt heddiw mai gêm Queens Park Rangers yn erbyn Milton Keynes Dons fyddai’n cael ei dangos ar y sianel honno’r un noson.

Bydd enillwyr y gêm yn herio’r tîm Uwch Gynghrair, Newcastle United yn y bedwaredd rownd.

Beth bynnag y canlyniad, mae’r gêm nos Fawrth nesaf yn siŵr o roi hwb ariannol i’r Dreigiau.

Yn ogystal â’r ffi darlledu, mae disgwyl torf fawr ar gyfer y gêm yn erbyn y tîm o’r Bencampwriaeth ac roedd cefnogwyr yn ciwio i brynu tocynnau wrth iddynt fynd ar werth ddoe.