Crystal Palace 1-0 Caerdydd
Collodd Caerdydd yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn Crystal Palace ym Mharc Selhurst heno. Ildiodd yr Adar Gleision gôl flêr yn hwyr yn yr hanner cyntaf wrth i’r tîm cartref sicrhau mantais gynnar yn y frwydr i gyrraedd Wembley.
Caerdydd a gafodd y gorau o’r cyfleoedd yn yr hanner cyntaf er nad oedd y tîm o Gymru yn chwarae ar eu gorau. Bu rhaid i gôl-geidwad Palace, Julian Speroni, arbed ergyd Joe Ralls wedi deg munud a chrymanodd Kenny Miller ergyd heibio’r postyn yn hwyrach yn yr hanner.
Rhwng hynny, bu rhaid i Tom Heaton arbed ymdrech Kagisho Dikgacoi yn y pen arall cyn i flerwch amddiffynnol gan y gôl-geidwad gyflwyno gôl i’r tîm cartref funudau cyn yr egwyl.
Cymerodd Darren Ambrose gic rydd o’r asgell chwith i ganol y blwch cosbi a daeth Heaton allan amdani. Ond gwnaeth draed moch ohoni a llwyddodd Mile Jedinak i benio’r bêl ymlaen tua’r postyn pellaf ble yr oedd Anthony Gardner yn aros i rwydo gyda pheniad rhwydd.
Doedd Caerdydd fawr gwell wedi’r egwyl ond cafwyd ambell i gyfle serch hynny. Bu rhaid i Speroni arbed ergyd Aron Gunnarsson gyda chwarter awr yn weddill a gwyrodd ergyd Peter Wittingham fodfeddi heibio i’r postyn funud cyn y diwedd.
A daeth hanner cyfle i Andrew Taylor yn yr amser a ganiateir am anafiadau pan ddisgynnodd y bêl iddo yn y bocs ond tarodd ei ergyd dros y trawst.
Canlyniad siomedig i’r Adar Gleision felly ond gyda dim ond un gôl ynddi fe fydd tîm Malcy Mackay yn ddigon hyderus cyn croesawy Crystal Palace i Stadiwm Dinas Caerdydd mewn pythefnos.