Mae Abertawe wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo’r chwaraewyr Darnel Situ a Rory Donnelly heddiw.
Mae’r gwaith papur ar gyfer y ddau wedi’i gymeradwyo gan yr Uwch Gynghrair a FIFA, ac maent bellach ar gael i chwarae ar gyfer yr Elyrch.
Yn wreiddiol, roedd Abertawe wedi ceisio arwyddo Situ cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau ym mis Awst, ond cafodd y trosglwyddiad ei atal gan FIFA.
Mae’r amddiffynnwr 19 oed wedi bod yn hyfforddi gyda’r Elyrch ers hynny, a nawr mae’n arwyddo’n swyddogol ar gytundeb dwy flynedd o hyd.
Mae trosglwyddiad Donnelly hefyd wedi cael ei gwblhau nawr bod y ffenestr drosglwyddo ar agor a bod Abertawe wedi cytuno ar ffi gyda’i glwb .
Roedd y trosglwyddiad yn y fantol ar un pryd wrth i Lerpwl ac Everton ddangos diddordeb yn chwaraewr rhyngwladol tîm dan 21 Gogledd Iwerddon.
McEachran nesaf
Yn y cyfamser mae disgwyl i dîm Brendan Rogers gadarnhau trosglwyddiad ar fenthyg chwaraewr canol can Chelsea, Josh McEachran, unrhyw bryd.
Mae’r seren ifanc wedi’i gysylltu ag Aston Villa, Blackburn Rovers a QPR.
Er hynny, Abertawe bellach yw’r ffefrynnau clir i gipio ei lofnod wrth i Rogers fanteisio eto ar ei gysylltiadau â Chelsea.
“Gobeithio y gallwn ni gadarnhau’r cytundeb yn y 24-48 awr nesaf” meddai Brendan Rogers.
“Mae Josh yn fachgen rwy’n ei adnabod yn dda felly cawn weld os allwn ni drefnu’r trosglwyddiad dros y dyddiau nesaf. Bydd yn wych i gefnogwyr Abertawe allu gweld un o dalentau ifanc gorau’r wlad.”