Mark Hughes
Mae Queens Park Rangers wedi cyhoeddi mai’r Cymro Mark Hughes yw eu rheolwr newydd.

Mae cyn rheolwr Cymru, sy’n 48 oed, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd o hyd gyda’r tîm Uwch Gynghrair o Lundain.

Bydd yn cymryd ei sesiwn hyfforddi cyntaf y prynhawn yma, ac mae disgwyl i’w staff cefnogol yn cynnwys y Cymry Mark Bowen ac Eddie Niedzwiecki ymuno ag ef.

“Mae’n deimlad gwych i fod nôl yn y byd pêl-droed a bod yn rheolwr ar QPR” meddai Hughes wrth wefan swyddogol y clwb, qpr.co.uk.

“Dwi’n ymwybodol iawn o’r sialens yn y tymor byr, ac yn wirioneddol gyffrous ynglŷn ag uchelgais y perchnogion.”

Cynnal lle

Mae Hughes yn ymwybodol iawn mai’r sialens gyntaf iddo fydd cynnal lle QPR yn Uwch Gynghrair Lloegr – maent ar hyn o bryd yn bedwerydd o waelod y tabl.

“Y flaenoriaeth i ddechrau bydd cynnal ein lle yn Uwch Gynghrair Barclays, ond y tu hwnt i hynny, mae’r dyfodol yn ddisglair iawn ac yn fy llenwi â brwdfrydedd” meddai Hughes.

QPR fydd y pedwerydd clwb Uwch Gynghrair Lloegr i Hughes eu rheoli yn dilyn cyfnodau gyda Blackburn Rovers, Manchester City a Fulham.

Bydd ei gêm gyntaf fel rheolwr yn cael ei chwarae ddydd Sul wrth i QPR deithio i herio Newcastle United.