Lee Fowler (Llun o wefan y clwb)
Mae Wrecsam wedi cadarnhau bod eu chwaraewr canol cae, Lee Fowler, wedi gadael y clwb i ymuno â Fleetwood Town.
Ymunodd Fowler â’r clwb ar gytundeb dwy flynedd dros yr haf ond cyhoeddwyd dros gyfnod y Nadolig bod Fowler wedi gofyn i’w glwb am drosglwyddiad.
Yn ôl y clwb a’r chwaraewr, nid yw wedi bod yn hapus ers i’r cyn rheolwr, Dean Saunders adael y clwb i reoli Doncaster Rovers.
Nid yw’r clwb wedi datgelu’r swm maent yn ei dderbyn am gyn chwaraewr tîm dan-21 Cymru, ond credir bod cymal yn ei gytundeb sy’n caniatáu iddo adael am oddeutu £20,000.
“Mae’n ddrwg gennym golli Lee” meddai Prif Weithredwr Wrecsam, David Roberts.
“Ond mae’n amlwg ei fod eisiau symud am resymau personol. Rydym yn diolch i Lee am ei wasanaeth.”
Mae Fleetwood Town ar hyn o bryd yn ail i Wrecsam yn Uwch Gynghrair y BlueSquare.