Mae’r pedwar rhanbarth yng Nghymru wedi  dod i gytundeb gyda Undeb Rygbi Cymru ynglyn â chyflwyno uchafswm cyflog o fis Gorffennaf 2012.

Mae’r rhanbarthau’n dweud eu bod wedi uno ar gyfer y cytundeb er mwyn sicrhau cynaladwyedd yn yr hir-dymor i rygbi rhanbarthol.

Ond mae na bryder y bydd y cytundeb yn annog rhagor o chwaraewyr rygbi i symud i Ffrainc.

Mae disgwyl i gapten y Dreigiau, Luke Charteris ymuno â Mike Phillips, Lee Byrne a James Hook sydd eisoes wedi gadael Cymru.

Fe fydd yr uchafswm cyflog o £3.5 miliwn yn cynrychioli’r sgwad Ewropeaidd o bob rhanbarth yn y tymor 2012/13 ac ni fydd yn cynnwys costau’r academi.

Mae’n gyfystyr â £92,000 ar gyfartaledd am bob chwaraewr, o’i gymharu a uchafswm cyflog o £4.2 miliwn am bob clwb yn Lloegr.

Mae’r corff llywodraethol, y WRU wedi rhoi eu cefnogaeth lawn i’r cynllun.

Fe fydd y cytundeb yn cychwyn ym mis Gorffennaf 2012 hyd at 30 Mehefin 2013 ac fe fydd yn cael ei adolygu’n flynyddol.