Sean Lamont
Mae asgellwr y Scarlets a’r Alban, Sean Lamont, wedi penderfynu gadael y rhanbarth ym mis Mehefin er mwyn dychwelyd i’w gyn-glwb, Glasgow Warriors.
Ymunodd Sean Lamont, sy’n 30, â’r Scarlets yn haf 2009. Mae wedi ymddangos 50 o weithiau dros y tîm o Lanelli ac wedi sgorio 10 cais.
Dywedodd ei fod yn benderfyniad anodd a phersonol dychwelyd ‘adref’ i’r Alban. Mae ei frawd Rory Lamont hefyd wedi ymuno â Glasgow Warriors ar ôl gadael Toulon.
“Rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle yr ydw i wedi ei gael gan y Scarlets. Mae wedi bod yn amser gwych i fi ac rydw i wedi cael chwarae rygbi cyffrous ac egnïol,” meddai.
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i Nigel Davies a thîm hyffordd i Scarlets am eu holl gefnogaeth dros y blynyddoedd. Mae traddodiad a steil rygbi gorllewin Cymru wedi gadael ei ôl arna’i.
“Fe fydda i yn gwneud fy ngorau am weddill y tymor o barch tuag at y crys coch a fy nghyd-chwaraewyr, y rhanbarth a’r cefnogwyr.
“Mae gennym ni gemau anodd o’n blaenau ni yn y gynghrair ac yng Nghwpan Heineken ac rydw i yn edrych ymlaen at y cyfle i ddangos pa mor bwysig mae’r clwb wedi bod i mi a fy ngyrfa.
“Bydd symud yn gyfle i mi fynd a fy nheulu ifanc yn ôl adref i’r Alban ac mae hynny’n bwysig i mi ar lefel bersonol.
“Diolch i gefnogwyr y Scarlets a phawb yng ngorllewin Cymru am y croeso cynnes i fi a fy nheulu.”