Shane Williams
Gyda’r Darbis ‘Dolig yn dod a therfyn i flwyddyn 2011, mae Caio Higginson yn taflu golwg dros y flwyddyn a fu, a’r goblygiadau sydd yn tarddu ohoni.
Ennill 9, colli 8 yw record y tîm cenedlaethol yn 2011 sydd yn berfformiad gweddol wrth ddiystyru ymateb hysterig y wasg.
Cwpan y Byd
Wedi’r Chwe Gwlad, isel oedd disgwyliadau’r genedl am obeithion Cymru yng Nghwpan y Byd. Ond efallai mai’r hyn rydym wedi’i ddysgu eleni, ac yn wir y wers sydd wedi’i dysgu i weddill rygbi’r byd, yw bod paratoi yn talu ffordd.
Nid fy mod yn awgrymu am eiliad nad oedd gweddill timoedd yn y gystadleuaeth wedi paratoi, er bod ambell i sylw o garfan Lloegr yn awgrymu’n wahanol! Ond roedd y manylder a’r ddisgyblaeth ym mharatoadau Cymru’n amhrisiadwy.
Pwy fyddai’n dychmygu y byddai rhewgelloedd Gwlad Pwyl yn profi mor effeithiol wrth baratoi Cymru i’r gystadleuaeth fawr? Ac mae Warren Gatland a’i griw wedi argyhoeddi gymaint yn y fenter nes eu bod yn barod i wneud y daith eto cyn cystadleuaeth y Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd.
Heb os roedd steil eu chwarae wedi toddi calonnau pobol Seland Newydd ac roedd eu hymddygiad oddi ar y cae yn destun balchder i ni. Mae’r bygi golff ar yr M4 yn atgof pell bellach.
Ond gyda moelid Vincent Clerc y daeth ymgyrch Cymru oddi ar y cledrau.
Au revoir
Ffarweliwyd â Shane ar ddechrau’r mis, ond mae’n debyg y gallwn ffarwelio â nifer mwy o’n sêr yn 2012.
Gyda Mike Phillips, James Hook, Lee Byrne, Andy Powell a Craig Mitchell wedi arwyddo cytundebau tu allan i Gymru, mae problemau wedi codi ynglŷn â’u rhyddhau ar gyfer y daith nesaf i Wlad Pwyl.
A chyda Luke Charteris wedi cadarnhau ei fod yn mynd i Ffrainc y tymor nesa, a sibrydion fod Adam Jones a Gethin Jenkins yn cael eu denu dramor, gwaethygu bydd y sefyllfa.
Tra byddent, mwy na thebyg, yn sicrhau cymal yn eu cytundebau sydd yn eu rhyddhau i ddychwelyd i’r tîm cenedlaethol ar ddyddiadau gemau rhyngwladol, bydd y clybiau Ffrengig a Saesnig yn annhebygol o’u rhyddhau am yr wythnosau cyn hynny i gael paratoi gyda’r garfan genedlaethol.
Does dim amheuaeth fod y rhanbarthau Cymreig yn feithrinfeydd heb eu hail. A dyna oedd eu pwrpas pan aethpwyd ati i’w creu, sef datblygu chwaraewyr ifanc a’u haeddfedu ar gyfer y tîm cenedlaethol. Ond bellach mae’n ymddangos nad ydynt yn medru atal cathod boliog Ffrainc rhag dwyn eu hufen.
Mae hyfforddwyr y rhanbarthau eisoes wedi dweud na allent feio’r chwaraewyr am lygadu cytundeb tu allan i Gymru am fod y goblygiadau ariannol gymaint yn fwy atyniadol.
Cytundebau canolog
Mae sôn ers nifer o flynyddoedd bellach am yr angen i Undeb Rygbi Cymru gyflwyno ‘Cytundebau Canolog’ i’w prif chwaraewyr, ond does neb wedi gosod syniad pendant ar sut fyddai hynny’n gweithio.
Un peth sy’n sicr, hyd yn oed pe bai URC i helpu’n ariannol gyda chyflogau sêr y rhanbarthau, mae’n annhebygol y byddent yn medru dod yn agos i’r hyn a gynigir yn Lloegr ac yn bendant Ffrainc.
Yn sgil hyn byddai amryw o gwestiynau’n codi megis, ai’r Undeb fyddai’n penderfynu pa ranbarth fyddai’r chwaraewr yn mynd iddo? Beth hefyd fyddai’n digwydd i gyflog chwaraewr petai’n gyflogedig o dan gytundeb canolog ond yn colli ei le yn y garfan ryngwladol ac yn nhîm cyntaf ei rhanbarth?
Er i’r Gleision, Scarlets a Gweilch golli ar lwyfan Ewrop yr wythnos diwethaf, fe sicrhaodd y tri bwyntiau bonws am eu hymdrechion. Mae’r rhanbarthau yn gwneud yn rhyfeddol wrth ystyried yr anfantais ariannol sydd ganddynt o’i gymharu â rhai o’u gwrthwynebwyr Ewropeaidd.
Y sialens fwyaf sydd yn wynebu URC a rhanbarthau yn 2012 felly ydi’r angen i amddiffyn y nyth o chwaraewyr sydd gennym rhag hedfan i diroedd pell. Mae’r genedl gyfan yn parhau i ddangos balchder am ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd eleni ac yn gobeithio fod modd i Gatland adeiladu arno.
Ond y mae peryg mae gwaddol Cwpan y Byd 2011 fydd siop ffenestr o gynnyrch Cymru i glybiau Ffrainc a Lloegr.