Luke Charteris
Mae’r Dreigiau wedi cadarnhau fod y clo, Luke Charteris i adael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor presennol.
Mewn datganiad bore yma fe gadarnhaodd y rhanbarth fod y clo rhyngwladol yn symud i dîm Ewropeaidd na ellid ei enwi ar hyn o bryd.
“Rwy wedi mwynhau fy amser gyda’r Dreigiau’n fawr iawn” meddai Charteris.
“Rwy wedi cael cydchwaraewyr anhygoel yma ac mae’r tîm hyfforddi wedi bod yn arbennig o dda gyda mi.”
“Er hynny, trwy fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol mae cyfle i deithio a gweld y byd ac rwy’n teimlo nad oes mod di mi wrthod hynny.”
“Mae’r cyfle i fyw mewn gwlad wahanol a mwynhau diwylliant a ffordd o fyw newydd yn rhywbeth nad yw pawb yn ei gael. Dyw gyrfa chwaraewr ddim yn para am byth ac rwy am brofi cymaint â phosib.”
Mewnlifiad i Gymru
Yn gynharach yn yr wythnos bu Charteris yn cwyno am y mewnlifiad o chwaraewyr tramor i ranbarthau Cymreig.
Ym marn y clo, roedd hyn yn rhannol gyfrifol am benderfyniad rhai o brif chwaraewyr Cymru sydd wedi symud i Ffrainc dros yr haf.
“Mae bois wedi mynd i Ffrainc, ond doedd lot o’r rhain heb gael cynnig cytundeb gan y rhanbarthau Cymreig” meddai Charteris ddydd Mawrth.
Er nad yw hynny wedi ei gadarnhau, mae geiriau’r chwaraewr ar y mater heddiw yn awgrymu y bydd yn symud dramor.
“Mae wastad wedi bod yn glir iawn mai aros gyda’r Dreigiau fyddwn i petawn i’n penderfynu aros yng Nghymru.”
“Dyma fy rhanbarth ac mae wedi bod yn benderfyniad anodd i symud ymlaen.”
“Rwy ond yn 28 ac rwy’n gweld y Dreigiau fel fy nhîm cartref, ac ar ôl treulio cyfnod dramor efallai y gallaf ddod nôl i Rodney Parade yn well chwaraewr.”