Mae Abertawe wedi cymryd cam yn nes at arwyddo Rory Donnelly o glwb Cliftonville yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Cliftonville wedi derbyn cynnig gan yr Elyrch am yr ymosodwr ifanc, 19 oed, sydd yn brif sgoriwr i’w glwb y tymor yma gyda 17 o goliau ac wedi cynrychioli Gogledd Iwerddon dan 21.

Nid Abertawe yw’r unig glwb o Uwchgynhrair Lloegr i ddangos diddordeb yn Rory Donnelly, ond mewn datganiad ar wefan Cliftonville mynegodd eu Cadeirydd Gerard Lawlor ei edmygedd i ymddygiad yr Elyrch.

“Mae’n gytundeb da i’r Clwb ac i’r chwaraewr, ac fe hoffwn ni yn bersonol nodi fy niolch i Gadeirydd Abertawe Huw Jenkins am y parch mae e wedi ei ddangos i’n Clwb trwy gydol y broses yma.”

Fe aeth rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers  i Ogledd Iwerddon yn ddiweddar i weld Donnelly yn chwarae.