Gavin Henson
Mae’n bosib fydd y canolwr Gavin Henson yn cael ei enwi yng ngharfan y Gleision i wynebu Caeredin y penwythnos hwn.
Roedd Gavin Henson wedi datgymalu ei arddwn yn y gêm gyfeillgar dros Gymru yn erbyn Lloegr ym mis Awst, a cholli allan ar le yng ngharfan Cwpan y Byd Cymru.
Ers hynny mae wedi arwyddo cytundeb hyd ddiwedd y tymor gyda’r rhanbarth o’r brifddinas, ac roedd disgwyl iddo wneud ei ymddangosiadau cyntaf yn erbyn y Dreigiau a’r Gweilch dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Ond yn ôl hyfforddwr olwyr y Gleision mae’n bosib y bydd ar gael yn gynt na’r disgwyl.
Dywedodd Gareth Baber wrth wefan y Guardian: “O ran ei law mae e wedi gwella’n ddigonol ac fe fydd e ar gael i ni wrth fynd ymlaen.”
“Fe fydd e’n cael ei ystyried ar gyfer y gêm yn erbyn y Dreigiau ac mae e’n cael ei ystyried ar gyfer yr wythnos yma a gall o bosib fod yn y 23.”