Yn ol gohebydd clwb Y Gweilch, Huw Wilcox, Rhys Webb ddaeth i’r brig wrth iddyn nhw wynebu Munster dros y penwythnos…

Wedi cyfnod trafferthus yng Nghwpan Heineken roedd yn bwysig bod y Gweilch yn ailddarganfod eu momentwm yng Nghynghrair y Pro 12 cyn gynted â phosib. Gyda chymaint o’u prif chwaraewyr naill ai ar ddyletswydd ryngwladol, ar gylchdaith 7 bob ochr yr IRB neu wedi’u hanafu, roedd yn edrych yn ddu iawn arnynt wrth iddynt wynebu Munster dros y penwythnos.

Serch hynny, llwyddodd y tîm cartref i drechu eu gwrthwynebwyr profiadol o 19-13. Sgoriodd Richard Fussell a Rhys Webb geisiau i’r tîm cartref wedi i Doug Howlett fanteisio ar adlam caredig y bêl i sgorio yn yr hanner cyntaf.

Wedi ymadawiad cymaint o sêr dros yr haf roedd gan nifer o chwaraewyr esgidiau enfawr i’w llenwi. Dau sydd wedi dod i’r brig i mi yw Rhys Webb a’r capten dylanwadol, Justin Tipuric. Mae’n amlwg bod cyfnod ar y gylchdaith saith bob ochr wedi gwneud lles mawr i Webb sydd wedi sgorio sawl cais o bellter eleni.

Ei feddwl chwim sicrhaodd ei gais dros y penwythnos, nodwedd arall o chwaraewr saith bob ochr profiadol. Yn fy nhyb i, roedd yn anffodus i beidio â chael ei gynnwys yn y garfan i wynebu Awstralia. Bydd rhaid i Lloyd Williams a Tavis Knoyle edrych yn betrusgar dros eu hysgwyddau am fewnwr ifanc sy’n gwneud i nifer o gefnogwyr rhanbarth y Liberty ofyn ‘Mike pwy’?

Llwyddodd Justin Tipuric i ychwanegu at ei gap yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn. Wedi cyfnod mor hir â dim ond un rhif saith yng Nghymru, rydym yn ffodus iawn i weld dau mor ifanc yn Tipuric a Sam Warburton yn ymladd dros yr un crys erbyn hyn. Mae perfformiadau Tipuric dros y Gweilch wedi bod llawn cystal â pherfformiadau gorau Marty Holah.

Mae ganddo’r meddylfryd hwnnw sydd ond yn perthyn i flaenasgellwyr. Mae’n fodlon rhoi ei ben a’i gorff mewn mannau ar waelod sgarmes lle na fyddai’r gweddill ohonom yn breuddwydio gwneud. Yn ogystal â hynny, fel pob blaenasgellwr gwerth ei halen, fe sydd ar ysgwydd bob hanner bylchiad a’r cyntaf i bob sgarmes.

Llwyddodd y Gweilch i roi saith chwaraewr rhyngwladol ar y maes yn erbyn Munster, ac felly does dim syndod eu bod wedi llwyddo i barhau a’u record ddiguro yn erbyn y rhanbarthau o Iwerddon. Camp yn ei hun o feddwl bod y Gweilch wedi ymweld â Pharc Thomond a’r Sportsground yn Galway eisoes eleni. Dwy o’r gemau oddi cartref anoddaf yn y gynghrair. Pam felly bod y Gweilch yn parhau i dangyflawni yn Ewrop?

Talcen caled arall sydd o’u blaenau dros y pythefnos nesaf yw wynebu’r Saraseniaid ddwywaith yng Nghwpan Heineken. Os ydynt am barhau i’r rowndiau terfynol rhaid anelu i gael o leiaf 8 pwynt o’r ddwy gêm, os nad sicrhau pwynt bonws yn y gêm gartref ar yr 17eg o Ragfyr.

Gobeithio wir na fydd angen gormod o orffwys ar y criw rhyngwladol. Er bod y Gynghrair Pro 12 yn sialens digon hawdd i ddygymod â hi, mae gwir angen help y profiadol ar y cnwd ifanc ym mhrif gystadleuaeth Ewrop.