Jamie Tolley
Yn ol gohebydd CPD Wrecsam Huw Ifor, fe gafodd Brentford wers bel-droed ddydd Sadwrn…

Daeth hud a lledrith cwpan yr FA yn ôl i Wrecsam ddydd Sadwrn gyda buddugoliaeth caboledig yn erbyn Brentford. Mae Brentford yn yr adran gyntaf, dwy adran uwchben Wrecsam, felly roedd y fuddugoliaeth hon yn un arbennig o dda.

Cafodd Wrecsam ddwywaith fwy o ergydion at y gol na’u gwrthwynebwyr felly nid perfformiad dewr gan dim bach oedd hwn ond gwers bel-droed i dim oedd fod lawer gwell na ni.

Roedd angen gol dda i  fod yn eising ar y perfformiad hwn a death honno gan Jamie Tolley – pan mae Tolley yn taro’r bel yn iawn does neb yn gallu ei stopio. A tarrodd y bel felly ar ôl 3  munud.

Roedd hi beth mae Alex Fergusonn yn ei alw’n “squeeky bum time” ar ddiwedd y gem gyda Brentford yn taflu pawb ymlaen i geisio sgorio ond roedd amddiffyn Wrecsam yn gadarn iawn unwaith eto.

Roeddwn wedi cynhyrfu brynhawn ddydd Sul yn gobeithio y byddai un o dimau mawr Lloegr yn disgwyl Wrecsam. Byddai gem yn erbyn Man U, City, Chelsea, Arsenal neu Newcastle yn gwneud yn siwr bod Wrecsam yn saff yn arianol am eleni.

Brighton yw’r tim sy’n ein disgwyl. Mae’n nhw’n chwarae yn dda yn y bencampwriaeth ac felly mi fydd hi’n gem anodd iawn. Stadiwm cymharol fach sydd ganddynt hefyd felly ni fydd y manteision ariannol gymaint a hynny. Rhaid fydd eu curo felly i gael gem yn erbyn un o’r timau mawr yn rownd 4.