Warren Gatland
Gyda gêm ryngwladol olaf 2011 y tu ôl i ni, beth yw’r hyn yr ydym wedi dysgu o’r gêm honno?
Heb os fe wnaeth y rhanbarthau ddioddef ar y maes o ganlyniad i’r gêm ryngwladol. Cafwyd canlyniad arswydus i’r Gleision yn Nulyn tra bod Ravenhill wedi profi’n dalcen caled i’r Scarlets er iddyn nhw lwyddo i ennill pwynt bonws am eu hymdrechion.
Ond efallai mai’r rhwystr mwyaf anfanteisiol i’r rhanbarthau yw eu paratoadau ar gyfer gemau Cwpan Heineken y penwythnos yma. Wrth ystyried fod Munster wedi cychwyn y gêm yn erbyn y Gweilch gyda Paul O’Connell a Ronan O’Gara ar y fainc ddydd Sadwrn, roeddent yn gobeithio gorffwys y rhain cyn y gêm Gwpan Heineken yn erbyn y Scarlets yr wythnos yma. Mae’n glod i’r Gweilch orfodi iddynt ddod i’r cae i geisio adfer y canlyniad, a’u hatal rhag gwneud hynny.
Bu Warren Gatland ei hun yn ddi-flewyn ar dafod yn datgan mai am resymau ariannol y trefnwyd y gêm yn erbyn Awstralia’r penwythnos diwethaf ac nad oedd y trefniant yn ddelfrydol o ran ffitrwydd a chyflwr corfforol y chwaraewyr.
Er hyn, ni allech amau brwdfrydedd y chwaraewyr a gamodd i gae’r Mileniwm b’nawn Sadwrn diwethaf wrth gofio tacl Jamie Roberts a Toby Faletau. Ac ar ben hynny wrth gwrs roedd encore y dewin o’r Amman yn gyfle i’r genedl ffarwelio a’u harwr.
Ond wrth gwrs rhaid edrych ar sut mae’r rhanbarthau’n elwa o’r gêm ryngwladol yn erbyn yr Aussies. Heb y tri neu bedwar gêm arferol sydd yn digwydd yn ystod cyfres yr Hydref eleni, roedd yna dolc yn siŵr o fod yn incwm rygbi Cymru.
Felly wrth gwrs rhaid cadw mewn ystyriaeth mai er lles rygbi yng Nghymru yn gyffredinol fydd yr elw a wnaethpwyd o’r gêm ddydd Sadwrn, ac mae’n adnodd ariannol gwerthfawr i’r rhanbarthau.
Dyfodol
Felly er ein bod yn dal i chwilio am fuddugoliaeth yn erbyn un o fawrion hemisffer y de dan reolaeth Warren Gatland, mae yna bethau i’w dysgu o’r gêm yn erbyn Awstralia.
Er mor braf oedd gweld Shane Williams yn sgorio yn ei weithred olaf ar y llwyfan rhyngwladol, a galar meddwol y cefnogwyr yn diawlio ei henaint, mae yna ddigon o asgellwyr ifanc a chyffrous yng ngharfanau’r pedwar rhanbarth Cymreig a fydd yn gwthio am lefydd nes y Cwpan Byd nesa.
Ar frig agenda Gatland fydd dod o hyd i’r ‘Prop Ffactor’ nesa, ac yn fwy penodol y prop pen tynn nesa. Cafodd Scott Andrews fedydd tân yn erbyn y Crysau Aur, ond dyna’r awyrgylch gorau i ddysgu ynddo. Mae Adam Jones yn 30 mlwydd oed felly fe fydd angen aeddfedu’r genhedlaeth nesa o sgrymwyr dros y pedair blynedd nesa.
Mae’r hyfforddwr cenedlaethol wedi codi gwrychyn ambell gefnogwr wrth ddiystyru rhai propiau aeddfetach yn y rhanbarthau gan ganolbwyntio ar ieuenctid ar gyfer y dyfodol, ond mae’r polisi yma wedi gweithio mewn safleoedd eraill yn y garfan.
Erbyn hyn mae gan Gymru ddyfnder da o chwaraewyr ym mhob safle arall. Profwyd hynny’r penwythnos yma wrth ystyried fod Alun Wyn Jones a Luke Charteris wedi’u hanafu. Mae olynydd i Martin Williams sef Sam Warburton wedi ei arwisgo yn nhân Cwpan y Byd ac fel y nododd Gatland wedi’r gêm ddydd Sadwrn, Jamie Roberts yw’r hynaf o’r olwyr yn 25 mlwydd oed, nawr fod Shane Williams wedi ymddeol.
Felly’r bennod nesaf ym mhrosiect Gatland a’i dîm o hyfforddwyr yw datblygu’r genhedlaeth nesaf o bropiau!