Er i Gaerfyrddin hawlio lle ym Mhedwaredd rownd Cwpan Cymru gyda buddugoliaeth yn erbyn Penybont ar Ogwr nos Wener, nid yw’n ddigon i achub swydd eu rheolwr Tomi Morgan.
Fe sgoriodd Steffan Williams a Nick Harrhy dros Gaerfyrddin i ennill 2-1, ond mae canlyniadau’r dref wedi bod yn siomedig eleni, wrth i dîm Tomi Morgan eistedd ar waelod y tabl gydag ond tair buddugoliaeth allan o ddeunaw cynnig mor belled y tymor yma.
Wedi treulio deunaw mis yn y rôl, dyma ei ail gyfnod fel rheolwr Clwb Bel Droed Caerfyrddin, cafodd ei ddiswyddo gan y clwb yn 2003 wedi cyfnod o chwe blynedd fel hyfforddwr.