Luke Charteris
Yn ôl adroddiadau yn y wasg Ffrengig mae clo’r Dreigiau a Chymru, Luke Charteris, yn bwriadu symud i chwarae ei rygbi yn Perpignan y tymor nesaf.
Mae papur newydd l’Independant yn awgrymu mai Charteris fydd y Cymro diweddaraf i symud i’r Top 14 yn Ffrainc.
Dros yr haf fe symudodd Lee Byrne i glwb Clermont, Mike Phillips i Bayonne a James Hook i Perpignan – y clwb mae Charteris yn ystyried arwyddo cytundeb tair blynedd â nhw.
Roedd Perpignan yn bencampwyr y Top 14 yn 2009, ond mae’r clwb wedi cael dechrau gwael i’r tymor eleni, ac ar rediad o golli saith gêm yn olynol ar hyn o bryd.
Charteris, sy’n 28 oed, oedd un o chwaraewyr gorau Cymru yng Nghwpan y Byd eleni, ond methodd a chwarae rhan yn y gêm yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn oherwydd anaf.