George North - anaf i'w goes
Mae’r Scarlets yn gobeithio bydd George North a Jon Davies yn holliach ar gyfer y gêm Cwpan Heineken allweddol yn erbyn Munster ddydd Sadwrn.
Anafodd yr asgellwr, North, ei goes wrth chwarae i Gymru yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.
Roedd Davies hefyd yng ngharfan Cymru, ond methodd y canolwr cydnerth y gêm ryngwladol oherwydd anaf i gesail y forddwyd.
Bydd hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies yn gobeithio am newyddion da ynglŷn â’r ddau wrth baratoi ei dîm ar gyfer y gêm fawr yng ngrŵp 1 o’r gystadleuaeth Ewropeaidd.
“Mae ychydig yn boenus, ond fe ddylai fod yn iawn” oedd ymateb North i’r anaf yn dilyn y gêm yn Stadiwm y Mileniwm bnawn Sadwrn.
Gorffwyso chwaraewyr
Beth bynnag fydd hanes y ddau, fe ddylai carfan y Scarlets fod yn weddol ffres wrth baratoi i groesawu Munster i Barc y Scarlets.
Fe benderfynodd Nigel Davies i orffwys nifer o chwaraewyr ar gyfer y gêm gynghrair yn erbyn Ulster nos Wener ddiwethaf, ac fe gollodd ei dîm o 24 – 17. Cyn hynny roedd rhanbarth Cymreig wedi ennill wyth gêm yn olynol.
“Fe berfformiodd nifer o Scarlets llai adnabyddus yn dda i ni nos Wener” meddai’r hyfforddwr.
“Roedden ni’n gystadleuol ac yn haeddu o leiaf pwynt bonws.”
“Mae gennym ni grŵp ffres o chwaraewyr wrth baratoi ar gyfer y gêm Munster. Mae rhai o’n chwaraewyr rhyngwladol wedi cael ychydig o amser bant ac mae rhai o’r chwaraewyr eraill wedi cael gorffwyso’r penwythnos yma.”
Howlett i fethu’r gêm
Mae newyddion llai cadarnhaol i wrthwynebwyr y Scarlets gan y bydd Doug Howlett yn methu’r gêm.
Bu’n rhaid i’r asgellwr profiadol adael y cae gydag anaf i’w ffêr ar ddiwedd y gêm yn erbyn y Gweilch dros y penwythnos.
Er nad yw wedi cael sgan eto, mae’n ymddangos fod yr anaf yn un eithaf difrifol ac mae’n sicr o fethu’r gêm ar Barc y Scarlets.