Nathan Cleverly
Mae’r rhestr fer ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru wedi ei chyhoeddi.
Pump enw sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ac mae’r pump yn bencampwyr byd yn eu meysydd penodol.
Nathan Cleverly: Trechodd Alesky Kyziemski o wlad Pwyl i ddod yn bencampwr bocsio pwysau is-drwm WBO y byd. Llwyddodd i amddiffyn ei wregys yn erbyn Tony Belllew o Lerpwl ym mis Hydref.
Chaz Davies: Yn 24 mlwydd oed, Chaz Davies yw’r Cymro cyntaf i ennill teitl yn nosbarth Superbike. Cafodd ei goroni yn bencampwr Supersport y byd yn Ffrainc eleni.
Dai Greene: Mae’r gwibiwr 400m dros y clwydi o Lanelli wedi ychwanegu i’w deitlau Ewropeaidd a Chymanwlad trwy ennill aur ym Mhencampwriaeth y Byd yn Ne Corea eleni. Mae gobeithion mawr i’r gŵr yma yn 2012.
Helen Jenkins: Er gorffen yn 33ain safle yn y ras gyntaf yn Awstralia, wedi damwain beic, mae’r Gymraes wedi perfformio’n gyson yn y chwe ras ganlynol i ennill y Bencampwriaeth Triathlon y Byd yn Beijing ym mis Medi. Dyma’r ail dro iddi ennill y bencampwriaeth, wedi gwneud hyn gyntaf yn 2008.
Nathan Stephens: Wedi ennill Aur ym Mhencampwriaeth Paralympaidd yn Seland Newydd mis Ionawr fe aeth y taflwr gwaywffon ymlaen i dorri record byd yn nosbarth F57 yn y Weriniaeth Siec yn yr haf. Taflodd bellter o 41.37 metr.
Mae modd pleidleisio o heddiw hyd 10 Ragfyr. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi nos Lun 12 Ragfyr.