Gwelodd Joe Allen garden coch yn erbyn Blackburn
Colli o bedair gôl i ddwy oedd hanes Abertawe dros y penwythnos. Gohebydd clwb Abertawe, Guto Llewelyn sy’n dadansoddi’r perfformiad a chanlyniad siomedig.
Cyn dydd Sadwrn roedd Abertawe wedi chwarae chwe gêm oddi-cartref yn y Brif Gynghrair ond ddim ond wedi ennill dau bwynt o’r rhain.
Roedd y daith hir i Blackburn yn cael ei gweld fel cyfle arbennig i ennill am y tro cyntaf tu allan i Stadiwm Liberty y tymor yma. Gyda dim ond un fuddugoliaeth i Blackburn yn eu 13 gêm ddiwethaf, a’r cefnogwyr yn protestio’n gyson ac yn angerddol yn erbyn yr hyfforddwr Steve Kean, roedd Abertawe’n edrych ymlaen at wynebu tîm oedd yn isel eu hyder.
Anafiadau
Roedd gan Abertawe broblemau gwahanol iawn i Blackburn. Oherwydd anafiadau i’w pigyrnau, nid oedd Angel Rangel na phrif sgoriwr yr Elyrch, Danny Graham, ar gael ar gyfer y daith.
Dechreuodd Jazz Richards am y tro cyntaf yn y brif gynghrair yn lle Rangel, a dechreuodd yr ymosodwr, Leroy Lita am y trydydd tro ers ymuno ag Abertawe dros yr haf. Tra bod Abertawe’n aildrefnu oherwydd anafiadau, roedd Blackburn yn ddiolchgar bod eu chwaraewr gorau, Christopher Samba, yn holliach unwaith yn rhagor ac yn barod i ddechrau.
Ni lenwodd Ewood Park nes rhai munudau cyn dechrau’r gêm oherwydd protest fawr gan y cefnogwyr yn erbyn Kean y tu allan i’r stadiwm. Yn dilyn munud o gymeradwyaeth teimladwy er cof am Gary Speed, ailgychwynnodd y brotest gyda’r cefnogwyr cartref yn cyd-floeddio “Kean Out!”.
Ymatebodd cefnogwyr Abertawe trwy ganu’n watwarus “Steve Kean for England!”
Dechrau’n dda
Fel yn y rhan fwyaf o’u gemau, Abertawe ddechreuodd orau, gyda’r chwaraewyr i gyd yn pasio’r bêl yn gyfforddus, heb or-ymestyn y tîm cartref.
Ar ôl ugain munud sgoriodd Yakubu i Blackburn yn dilyn chwarae da gan Gael Givet ar yr asgell chwith.
Roedd y cefnwr Ffrengig lawer yn rhy gyflym a llawer yn rhy gyfrwys i Jazz Richards. Brasgamodd heibio’r Cymro amhrofiadol cyn pasio’r bêl yn berffaith o flaen Yakubu, a gydag ochr ei droed, llywiodd yr ymosodwr y bêl heibio Michel Vorm ac i gornel y rhwyd.
Rhoddodd y gôl hwb i’r cefnogwyr cartref, er iddynt ei ddefnyddio’n rhyfeddol fel esgus i brotestio yn erbyn Kean.
Ceisiodd Abertawe chwarae eu gêm naturiol a chwarter awr yn ddiweddarach sgoriodd Abertawe gôl ragorol i unioni’r sgôr.
Pasiodd yr Elyrch y bêl yn amyneddgar ac yn grefftus mewn trionglau pert yr holl ffordd o’r llinell hanner i ymyl cwrt cosbi Blackburn. Gwelodd Mark Gower Lita’n rhydd wrth y postyn cefn. Roedd croesiad Gower yn berffaith a pheniodd Lita’r bêl ar draws Paul Robinson, i gornel isaf y rhwyd.
Dathlodd y cefnogwyr gôl a oedd yn enghraifft wych o arddull chwarae tlws Abertawe.
Ail i Blackburn cyn yr hanner
Roedd Abertawe’n ymosod yn dda ond roedd yr amddiffynwyr yn anarferol o ddi-drefn. Munud cyn yr hanner cosbwyd Abertawe pan fethwyd â chlirio’r bêl yn dilyn cic gornel.
Ciciodd yr eilydd Vukcevic y bêl tuag at y postyn cefn ble roedd Yakubu’n barod i benio ei ail gôl heb unrhyw wrthwynebiad gan Abertawe.
Roedd yr amseru’n boenus i Abertawe ar ôl rheoli’r meddiant yn ystod yr hanner cyntaf.
Ar ôl 57 munud bu bron iawn i olwr Blackburn, Paul Robinson sgorio o’i hanner ei hun wrth i’w gic hir adlamu’n annisgwyl, gan orfodi Michel Vorm i ildio cic gornel. O’r gic honno sgoriodd Yakubu unwaith yn rhagor. Neidiodd y cawr, Samba’n uwch nag Ashley Williams i benio’r bêl i gyfeiriad Yakubu, a churodd yr “Yak” Neil Taylor yn hawdd yn yr awyr er mwyn penio’i drydedd.
Gobaith
Ymateb Brendan Rodgers oedd cyflwyno’r ymosodwr, Luke Moore o’r fainc yn lle Gower. Bum munud ar ôl camu i’r cae rhoddodd Moore obaith i gefnogwyr Abertawe pan sgoriodd o ddeg llath, diolch i gamgymeriad gan Paul Robinson.
Sbardunodd gôl Moore Abertawe, ac roedd Scott Sinclair yn anlwcus i beidio sgorio pan ergydiodd dros y trawst, yn dilyn gwaith da gan Wayne Routledge ar yr asgell dde.
Diffoddwyd gobaith Abertawe mewn munud gwallgof. Derbyniodd Joe Allen ail garden felen am drosedd ar Junior Hoilett.
O’r gic rydd, gwrth ymosododd Blackburn gan fanteisio ar ddryswch amddiffynnol Abertawe. Rhedodd Vukcevic i mewn i’r cwrt cosbi a rhuthrodd Taylor tuag ato’n fyrbwyll. Ymestynnodd y cefnwr ei goes a disgynnodd Vukcevic i’r llawr gwlyb gan rolio’n ddramatig er mwyn sicrhau ei fod yn ennill y gic o’r smotyn.
Plymiodd Vorm i’w ochr dde ac ergydiodd Yakubu i’r cornel agored er mwyn sicrhau’r tri phwynt i Blackburn.
Arbedodd Robinson yn wych o gynnig Lita yn y funud olaf ond roedd hi’n rhy hwyr i gipio unrhyw bwyntiau.
Dathlodd cefnogwyr Blackburn trwy ganu eu hoff gân, “Kean Out”, gan ddangos, er eu buddugoliaeth yn erbyn yr Elyrch, eu bod dal yn anfodlon gyda’r sefyllfa yn Ewood Park. Gwelodd cefnogwyr Abertawe eu hymateb i’r tri phwynt fel un anniolchgar.
Ar y daith hir nôl i Dde Cymru cafodd y cefnogwyr ddigon o gyfle i drafod digwyddiadau’r prynhawn a’r farn gyffredinol oedd mai gwallau amddiffynnol oedd ar fai am bob un o goliau Blackburn.
Wythnos nesa mi fydd Fulham yn ymweld â’r Liberty i chwarae yn erbyn tîm Abertawe sydd heb ennill gêm ers mis Hydref.